
Agorwyd Canolfan yr Urdd Pentre Ifan ym 1992 fel canolfan addysgol gyda’r pwyslais ar addysg yr amgylchedd. Hen borthdy Tuduraidd yw’r adeilad, yn dyddio yn wreiddiol o 1485. Mae’r Ganolfan wedi’i hamgylchynu gan dir amaethyddol a choedwigoedd naturiol a cheir awyrgylch heddychlon a chartrefol.

Lleolir Pentre Ifan rhyw 2 filltir o Drefdraeth, rhwng Aberteifi ac Abergwaun ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro. Mae’r ardal yn un wledig iawn ac yn adnabyddus am ei olygfeydd trawiadol, olion hanesyddol, a bywyd gwyllt unigryw.
O fewn cyrraedd hwylus i’r Ganolfan mae Cromlech Pentre Ifan, Castell Henllys, y llwybr arfordirol, gwarchodfa Ty Canol, y Preselau a Chwm Gwaun. Gellir hefyd llogi beiciau mynydd a cheffylau gerllaw.

Mae lle i 18 o bobl i gysgu mewn tair ystafell (ystafelloedd i 10, 6 a 2). Darperir bwyd gan wraig y ty fferm sydd wedi’i leoli ar y safle. Mae lle i 50 o bobl i eistedd yn y neuadd ac yn addas felly ar gyfer partïon a chyfarfodydd.

Er taw canolfan addysg yw Pentre Ifan yn bennaf, mae hefyd yn boblogaidd ar gyfer cyrsiau a
chynadleddau ac yn addas ar gyfer grwpiau ieuenctid a gwyliau teulu. Beth bynnag yw eich
gofynion, os ydych yn chwilio am rywle â naws arbennig ar gyfer cwrs neu wyliau mae’n
werth cysylltu â Chanolfan Pentre Ifan.

Y Ganolfan
Cyfarfodydd £37.50 hyd at 3 awr
£70.00 am ddiwrnod
Parti Nos £70.00 y noson
Priodasau £300.00 y dydd
£75.00 am ddefnydd o’r gegin
Preswyl £29.50 ‘Full board’ (swper, gwely, brecwast a chinio pacio)
Gwersylla £9.50 y pen/noson
£24.50 y pen/noson yn cynnwys swper, brecwast a chinio pacio.
Hunangynhaliol £15.00 y pen/noson
Gwely a Brecwast £19.00 y pen/noson
Am ragor o fanylion, cysylltwch â:
Gwersyll yr Urdd Llangrannog,
Llangrannog, Llandysul,
Ceredigion, SA44 6AE
Cymru
Ffôn: (01239) 652 140
Ffacs: (01239) 654 912
E-bost: Pentreifan@urdd.org