
Rhieni ac Arweinyddion
Er bod y rhan helaeth o athrawon a rhieni yn cydnabod fod cyrsiau preswyl yn cynnig profiadau amhrisiadwy i blant a phobl ifanc deallwn fod nifer fawr yn bryderus am drefnu’r fath dripiau yn yr hinsawdd gymdeithasol bresennol. Rydym yn deall y pryderon yma ac wedi gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau pob cefnogaeth i ysgolion trwy gydol y broses. Rydym yn ymfalchïo yn ein record Iechyd a Diogelwch, a chredwn mai dyma un o’r rhesymau y mae 84% o’n hymwelwyr yn dychwelyd i aros yn y Gwersyll dro ar ôl tro. Mae strwythurau pendant eisoes mewn lle sydd yn sicrhau diogelwch plant, athrawon ac oedolion yn ystod eu harhosiad.
Isod ceir amlinelliad o’n systemau diogelwch
- 3 Atalfa Ddiogelwch a system CCTV
- Gwylwyr Nos
- BCT - Mae pob aelod o staff wedi mynd trwy broses Biwro Cofnodion Troseddol (Archwiliad manwl)
- Staff cymwysedig ar y gweithgareddau. Mae’r Gwersyll wedi derbyn statws ‘Buddsoddwyr Mewn Pobl’ a hefyd wedi ennill ‘Cyflogwr y Flwyddyn’ yng ngwobrau Cwlwm Busnes Ceredigion
- Diogelwch Tân. Cynhelir dril tân cyn gynted â phosib wedi i’r plant gyrraedd y Gwersyll. Darperir ystafelloedd â larwm dân weledol i bobl â nam clyw
- Cymorth Cyntaf - Swyddogion Cymorth Cyntaf llawn ar alwad 24 awr y dydd
- Ystafell Cymorth Cyntaf pwrpasol a man cadw meddyginiaeth o dan glo
- Ffurflenni Iechyd – Cyfle i rieni ddatgelu unrhyw broblem / anghenion arbennig (gweler y ffurflen amgaeedig)
- Systemau pwrpasol mewn lle ar gyfer alergeddau bwyd. Darperir bwydlen ar gyfer pob angen dietegol
- Asesiadau Risg ar gyfer pob gweithgaredd
- Swyddog NEBOSH llawn amser sydd yn gyfrifol am Iechyd a Diogelwch
Grwpiau:








