Penwythnos Ysgolion Conwy Gorffennaf 6 – 8 2007
Cawsom benwythnos bendigedig yng Ngwersyll yr Urdd Glan Llyn gyda nifer o ysgolion yno. Buom yn canwio, adeiladu rafft, llafnrolio, cyfeirianu, chwarae rownderi, cwrs raffau uchel, ac ar y wal ddringo. Fe wnaethom fwynhau y jambori nos Wener ar disgo nos Sadwrn. Gwnaethom lawer o ffrindiau newydd wrth gyfarfod â phlant o ysgolion eraill.
Diolch arbennig i Derfel Thomas am gynnal y jambori a’r disgo ac i Catrin Roberts am arwain y penwythnos. Edrych mlaen yn eiddgar am y nesa.