PEL DROED 5 BOB OCHR YSGOLION/ADRANNAU
Dydd Gwener, Ionawr 14eg mwynhawyd bore hwyliog iawn o bêl-droed yng Nghanolfan Hamdden Dyffryn Conwy, Llanrwst gyda chydweithrediad caredig yr Ysgol Uwchradd. Cafwyd cystadlu brwd ac ysbryd teg ymysg y chwaraewyr a’r cefnogwyr.
Daeth cynifer a 13 tim ymlaen i geisio cipio’r safle, tlws a’r medalau a bu chwarae cyfeillgar, ond cystadleuol rhyngddynt. Roedd y chwaraewyr oll yn canolbwyntio yn ddwys ar y gêm, ond ar ddiwedd yr ornest Adran Bro Aled ddaeth yn fuddugol gan guro Adran Llannefydd, ac Ysgol Dolwyddelan o drwch blewyn yn cael y trydydd safle. Llongyfarchiadau mawr iddynt i gyd.
Llawer o ddiolch i Dylan Elis am ddyfarnu’r gemau a chadw pawb mewn trefn ac i’r athrawon, rhieni, cefnogwyr a chwareuwyr am gefnogi’r gystadleuaeth.
Ein dymuniadau gorau i Adran Bro Aled yn Aberystwyth ar Fai 7fed yn rownd genedlaethol.