GALA NOFIO RHANBARTH CONWY
Cynhaliwyd Gala Nofio Rhanbarth Cynradd Conwy ar ddydd Mercher y 18fed o Hydref ym Mhwll Nofio Abergele. Daeth nifer fawr o nofwyr o sawl ysgol ynghyd i geisio am y cyfle i gynrychioli rhanbarth Conwy yng Ngala Nofio Cenedlaethol Cymru . Llawer o ddiolch i bawb am gefnogi ac i’r cystadleuwyr am gymryd rhan. Dymunwn y gorau i’r buddugwyr yn y genedlaethol yn ystod mis Ionawr.