Gyda ugain o dimau yn cymryd rhan, roedd cystadleuaeth 5-bob-ochr Talaith y Gogledd heb os yn mynd i fod yn un gwerth ei gweld.
Roedd deuddeg o dimau bechgyn ac fe'u rhanwyd i dri grŵp. Wedyn roedd enillwyr y tri grŵp yn herio eu gilydd mewn grŵp o dri er mwyn cael enillydd. Wedi gemau caled iawn, y tri buddugol oedd grŵp A Elfed B, yn grŵp B, Eifionydd ac yn grŵp C, Y Rhyl.
Yn y gemau terfynnol llwyddodd Y Rhyl i gael gêm gyfartal yn erbyn Elfed B a churo Eifionydd a oedd yn ddigon iddynt ennill y bencampwriaeth. Yn ail oedd Eifionydd ac yn drydydd oedd Elfed
O ran y merched, roedd dau grŵp o bump. Roedd Aberconwy A yn fuddugol a Syr Hugh Owen yn ail gyda grŵp B yn dyfarnu Aberconwy B yn enillwyr ac Eifionydd yn ail.
Yn y gemau cyn-derfynol, fe wnaeth Aberconwy A guro Eifionydd wedi amser ychwanegol o bedair gôl i ddwy a Syr Hugh Owen yn taro'r rhwyd mewn gornest ciciau o'r smotyn yn erbyn Aberconwy B o dair gôl i un i gyrraedd y gêm derfynol.
Syr Hugh Owen ennill y trydydd tarian ac Aberconwy ddaeth yn ail.
Diolch yn fawr iawn i bawb am gefnogi, i'r bobl ifanc am eu hymdrechion ac i'r ysgolion am ganiatau i'r athrawon fynychu'r gystadleuaeth.
Bydd cystadleuaeth yn cael ei gynnal eto yn 2009 - gwyliwch y gofod.