Adran Maelgwn
Yn yr adran yr wythnos yma cafwyd llawer o weithgareddau gwahanol gan gynnwys gemmau parashwt, gemau gwirion ac ychydig o weithgareddau drama.
Cafodd pawb lawer o hwyl yn chwarae gyda'r parashwt, hoff gem y plant oedd cath a llygoden. Cafodd y plant syniad ardderchog, sef creu madarch/pabell gyda'r parashwt ac yna cafwyd gem o sibrydion y tu fewn i'r pabell.
Yn ogystal a hyn cafodd y plant gyfle i actio! Wel... roedd hyn yn werth i'w weld, gyda'r plant yn actio cymeriad neu berson a gweddill y plant yn ceisio dyfalu pwy oeddent yn actio.
Cafwyd llawer o hwyl, a dywedodd nifer o'r plant yr hoffen nhw gael chwarae gyda'r parashwt eto!