Bore Gwener, Tachwedd 6ed ar gaeau pob tywydd Dyffryn Conwy, gwelwyd un ar ddeg o dimau pêl droed merched yn brwydro am y cyfle i gynrychioli’r rhanbarth yn y chwaraeon Cenedlaethol yn Aberystwyth ar y 15fed o Fai.
Gwelwyd chwarae medrus iawn, gyda llawer i sgil yn ei cael ei arddangos gan sawl chwaraewr.
Daeth y ffeinal agos i ben gyda tîhm Ysgol Sant Elfod yn ennill yn erbyn tîm Ysgol Bod Alaw.
Llongyfarchiadau i Ysgol Sant Elfod a phob lwc yn y Genedalethol fis Mai.
Hoffwn ddiolch i'r dyfarnwyr am gynorthwyo ac i Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst am ddefnyddio’r cyfleusterau.