CHWARAEON
Ddydd Sadwrn 20 Hydref ar gaeau pob tywydd Eirias, Bae Colwyn bu 20 tîm pêl-droed (dros 200 o gystadleuwyr) yn brwydro i ennill y darian a’r cyfle i gynrychioli Conwy yn Chwaraeon Cenedlaethol Urdd Gobaith Cymru a gynhelir yn Aberystwyth ddydd Sadwrn 10 Mai.
Wedi pedair awr o chwarae daeth y gemau cyn-derfynol o enillwyr y 4 grŵp i herio ei gilydd... Ysgol Nant-y-Coed yn erbyn Llandrillo-yn-Rhos, ac Ysgol St Joseph yn erbyn Craig-y-Don. Cafwyd gêm derfynol hynod gyffrous gyda chwarae dawnus gan y ddwy ochr. Ysgol Craig-y-don ddaeth i'r brig yn erbyn Ysgol Llandrillo-yn-rhos.
Cyflwynwyd tlws y chwaraewr gorau yn haeddiannol iawn (gan guro’r hogiau!!!!!!) i Keeley o Ysgol Nant-y-Coed. Llongyfarchiadau mawr i Ysgol Llandrillo-yn-rhos ar y gyrraedd y rownd derfynol ac i Ysgol Craig-y-don am ennill y darian.
Ar gyrtiau pêl-rwyd y ganolfan yr un diwrnod cynhaliwyd cystadleuaeth pêl-rwyd. 12 tîm pêl-rwyd ddaeth i’r twrnament gyda’r cyfan yn dod i ben gydag Ysgol Pen-y-Bryn ac Ysgol Maelgwn yn ymladd am y bencampwriaeth. Ysgol Penybryn ddaeth i'r brig yn y diwedd gan ennill y darian ac Anna Jane Williams o Ysgol Maelgwn a dderbyniodd y tlws am y chwaraewraig orau.
Diolch i bawb am eu cymorth a’u cefnogaeth a phob lwc i Ysgolion Craig-y-don a Phen-y-bryn yn y Chwaraeon Cenedlaethol.