Glan-llyn Croeso


Canolfan breswyl aml weithgaredd yw Gwersyll yr Urdd Glan-llyn. Saif y gwersyll ar lan Llyn Tegid ger y Bala rhyw filltir o bentref Llanuwchllyn yng nghysgod yr Aran ac oddi fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Eryri. Mae ei leoliad yn ddelfrydol ar gyfer pob math o wyliau a chyrsiau antur.

Sefydlwyd Glan-llyn fel canolfan awyr agored yn ôl yn 1950 ac mae’n rhan o fudiad Urdd Gobaith Cymru, sef prif fudiad Ieuenctid Cymru. Erbyn hyn ceir llety i 230 o wersyllwyr, gweithgareddau cyffrous, adnoddau a chyfleusterau heb eu hail ac mae gan y gwersyll y gallu i gynnig pob math o gyrsiau ar gyfer pawb.

Gweler clip fideo o'r hwyl a geir yn y gwersyll yma!

Cliciwch ar y 'Twrci' am fwy o wybodaeth am benwythnosau gwych yng Nglan-llyn yn ganol y gaeaf........








Rydym yn cynnal cyrsiau antur ar gyfer plant cynradd, pobl ifanc, cyrsiau oedolion, gwyliau i deuluoedd ynghyd â chyrsiau rheolaeth i gwmnïau a llu o gyrsiau arbenigol, e.e. arwain mynydd, hwylio, canwio, ceufadu.

Hefyd, mae'r gwersyll yn ganolfan berffaith ar gyfer cyrsiau addysgiadol - cyrsiau iaith, cyrsiau amgylcheddol, cyrsiau John Muir, cyrsiau trawsgwricwlaidd, cyrsiau gwaith maes daearyddiaeth.

Mae Gwersyll Glan-llyn yn croesawu dros 12,000 o wersyllwyr yn flynyddol ac yn cyflogi 40 o staff llawn amser ac oherwydd systemau sydd wedi datblygu dros yr hanner canrif ddiwethaf, mae'r gallu gennym i gynnal amryw o gyrsiau bach a mawr ar yr un pryd - rydym wedi hen arfer cydredeg cyrsiau yn hynod o lwyddiannus.

Manylion Pwysig a’r Diweddara....

Cwrs Hyfforddi Swyddogion.... Cliciwch am fanylion
Cynllun Hyfforddai...Cliciwch am fanylion
Gwyliau Antur 2008...Cliciwch am fanylion


rhwyfo   Cerdded   cwch   nofio   wrth y lan