
Gwybodaeth i Rieni ac Arweinyddion
Er fod y rhan helaeth o athrawon a rhieni yn cydnabod fod cyrsiau preswyl yn cynnig profiadau amhrisiadwy i blant a phobl ifanc deallwn fod nifer fawr yn bryderus am drefnu’r fath dripiau yn yr hinsawdd gymdeithasol bresennol. Rydym yn deall y pryderon yma ac wedi gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau pob cefnogaeth i ysgolion trwy gydol y broses. Mae strwythurau pendant mewn lle sydd yn sicrhau diogelwch plant, athrawon ac oedolion yn ystod eu harhosiad
Rydym yn gweithredu'r camau yma i sicrhau diogelwch yn ystod cwrs preswyl
- System CCTV
- Gwylwyr Nos
- Rheolwr ar ddyletwydd- Mae un o tîm rheoli'r Gwersyll ar alwad drwy'r nos.
- Cymorth Cyntaf- Staff cymwysiedig a chymorth cyntaf ar bob weithgaredd, yn ogystal a'r rheolwyr sydd ar alwad dydd a nos. Hefyd mae Ystafell Cymorth Cyntaf ar gael ar gyfer cadw meddyginiaeth dan glo.
- Ffurflenni Iechyd – Cyfle i rieni ddatgelu unrhyw broblem / anghenion arbennig (gweler y ffurflen amgaeedig)
- Diogelwch Tân- Caiff dril tân ei gynnal gyda pawb sydd yn cyrraedd y Gwersyll
- Radio cyfarthrebu- Mae staff gweithgareddau, swyddfa a rheolwyr mewn cysylltiad cyson ai gylidd drwy radio.
- Asesiadau Risg ar gyfer pob gweithgaredd
- Swyddog NEBOSH llawn amser sydd yn gyfrifol am Iechyd a Diogelwch
Rydym wedi ei'n trwyddedu gan yr Awdurdod Trwyddedu Gweithgareddau Antur, sydd yn sicrhau diogelwch yn ystod gweithgareddau. Am fwy o wybodaeth am ATGA, cliciwch yma
Grwpiau:










