
Cyrsiau Arbenigol Awyr Agored
Cyflwyniad i Geufadu
Cwrs sylfaenol sydd yn gyflwyniad i’r gamp o geufadu. Yn ystod y cwrs cewch gyfle i ehangu eich gwybodaeth am offer, tywydd, sgiliau achub a theithio. Ar ddiwedd y cwrs rydym yn gobeithio y byddwch wedi cael blas da ar y gamp.
Cyflwyniad i Geufadu Dŵr Gwyn
Mae’n gyfle i unigolion ddatblygu eu sgiliau ar ddwr gwyn. Yn ystod y cwrs cewch gyfle i ddatblygu sgiliau dwr gwastad a’u haddasu i ddwr symud. Cewch gyfle i fentro lawr afonydd hyd at radd 2 o dan arolygaeth ein hyfforddwyr profiadol cymwys.
Cyflwyniad i Ganwio
Cwrs sylfaenol sydd yn rhoi cyflwyniad i’r gamp o ganwio. Yn ystod y cwrs cewch gyfle i ehangu eich gwybodaeth am offer, tywydd, sgiliau achub a theithio gan gynnwys hwylio a pholio. Ar ddiwedd y cwrs rydym yn gobeithio y byddwch wedi cael blas da ar y gamp.
Cyflwyniad i Ganwio Dŵr Gwyn
Mae’n gyfle i unigolion ddatblygu eu sgiliau ar ddwr gwyn. Yn ystod y cwrs cewch gyfle i ddatblygu sgiliau dwr gwastad a’u haddasu i ddwr symud. Cewch gyfle i fentro lawr afonydd hyd at radd 2 o dan arolygaeth ein hyfforddwyr profiadol a chymwys.
Hyfforddiant ac Asesiad Gwobrau Seren 1-3
Mae Glan-llyn yn gallu hyfforddi ac asesu Gwobrau Seren 1-3. Am fwy o fanylion cysylltwch â’r Gwersyll i drefnu dyddiadau.
Gwobr John Muir - Hyfforddi’r Hyfforddwr
Cwrs amgylcheddol yw G John Muir. Yn ystod y deuddydd yma fe cewch gyfle i gasglu adnoddau a syniadau fel eich bod yn gallu cynnal a rhedeg cyrsiau i bobl ifanc. Mae’r cwrs yma yn rhoi'r syniadau a’r deunyddiau byddwch eu hangen i redeg cwrs yn eich cymuned leol chi.
Technegydd SRT Lefel 1
Mae’r cwrs pedwar diwrnod yma yn gwrs sy’n hyfforddi sgiliau sydd eu hangen i achub pobl mewn amgylchedd dwr gwyn. Rhaid i chi fod yn gyfforddus yn nofio mewn dwr gradd 2.
Cyrsiau Teithiau ac Ymweliadau Diogel
Deall y broses a ddilynir i weinyddu a chynllunio ymweliad neu daith. Deall y fframwaith cyfreithiol sy’n effeithio ymweliadau a theithiau. Defnyddio gwybodaeth a dealltwriaeth asesiadau risg i gyd-destun penodol. Deall y gweithdrefnau all effeithio ar grwpiau a staffio ymweliadau a theithiau. Dangos y gallu i reoli digwyddiadau a chynllunio wrth gefn. Deall yr angen i gyflawni gwerthusiad o’r ymweliad neu’r daith.
Cyflwyniad i Ddringo
Cyfle i chi cael blas ar ddringo yw’r cwrs yma. Fe fyddwch yn datblygu eich sgiliau dringo personol a hefyd yn dysgu dulliau gwaith rhaff sydd eu hangen i sicrhau eich diogelwch personol. Cewch gyfle i ddringo dan do a hefyd cael blas ar ddringo creigiau gogledd Cymru.
Cysyllta gyda’r Gwersyll am fwy o fanylion!
Addysg Awyr Agored Ol-Raddedig
Cyflwynir y cyrsiau yma gan Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, mewn cydweithrediad a'r gwersyll. Defniddir adnoddau a hyfforddwyr y gwersyll i ddarparu anghenion ymarferol cyrsiau Addysg Awyr Agored y brifysgol. Am fwy o wybodaeth, lawrlwythwch y wybodaeth isod neu ewch i wefan www.ydds.ac.uk
Grwpiau:










