
Sboncen
"Mae Sboncen Cymru yn falch iawn i fod yn un o gampau newydd Gemau Cymru eleni ar ôl llwyddiant y Gemau llynedd. Bydd y gemau yn rhoi llwyfan i arddangos Sboncen yng Nghymru, ac yn rhoi cyfle i bobl ifanc ennyn profiad o’r Gemau mawr ar raddfa lai. 'Rydym yn edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth gyda'r Urdd ar y Gemau".
Llysgennad: Ceri Burgis

Dechreuais chwarae sboncen yn 8 mlwydd oed yn y ganolfan hamdden leol gyda fy nhad. Mae wedi bod yn gymorth mawr wrth i mi ddatblygu a chael fy nerbyn i sgwad Cymru. Rydw i wedi bod yn ffodus i gynrychioli De Cymru yng Nghystadlaethau Rhyng-Sirol Lloegr ac wedi cynrychioli Cymru ddwywaith yn Nhwrnamaint sboncen y Pum Gwlad yng Nghymru (Dan13) ac yn ddiweddar yn Ffrainc fel rhan o’r tîm dan 15. Ar hyn o bryd rydw i yn y broses o cwblhau fy nghymwyster hyfforddi lefel 1 ac yn gobeithio gallu pasio ar fy mwynhad o sboncen i eraill.
Mae llawer o resymau dwi'n mwynhau sboncen ond mae arwyddair Sboncen Cymru o "Hwyl i Gyflawni" yn crynhoi yn berffaith pam yr wyf wrth fy modd gyda’r gamp. Cafodd Sboncen ei gynnwys llynedd am y tro cyntaf yn Gemau Cymru, credaf ei fod yn gyfle gwych i arddangos Sboncen ac i helpu i godi proffil sboncen yn ei chais i ymddangos yn y Gemau Olympaidd yn 2020.
Lleoliad: Canolfan Cenedlaethol Chwaraeon Cymru
Proses Ddethol:
- Bydd y digwyddiad yn gystadleuaeth mynediad agored ar gyfer cystadleuwyr canlynol :
- Dan 11
- Dan 13
- Dan 15
- Dan 17
- Dan 19
- Mae'r ffurflen gais ar gyfer y digwyddiad hwn ar gael i lawrlwytho isod.




