Urdd Chwaraeon

  • Hafan
  • Beth yw Gemau Cymru?
  • Newyddion
  • Athletwyr
    • Pentref Athletwyr
    • Cit
    • Trafnidiaeth
    • Costau
    • Côd Ymddygiad
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Gwirfoddolwyr
    • Rolau
    • Hyfforddiant
    • Pam gwirfoddoli?
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Partneriaid
  • Chwaraeon
    • Athletau
    • Boccia
    • Canwio
    • Gymnasteg
    • Nofio
    • Pêl-droed i ferched
    • Pêl-rwyd
    • Rygbi
    • Triathlon
    • Hwylio
    • Sboncen
    • Rhwyfo Dan Do
  • urdd.org

56
  • English
  • Cymraeg



Rygbi 7 bob ochr i fechgyn

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

"Mae Undeb Rygbi Cymru yn falch iawn o gefnogi Gemau Cymru. Mae rygbi saith bob ochr wedi bod yn un o'r chwaraeon sy'n tyfu gyflymaf ers ei sefydlu fel gêm Olympaidd, ac mae'r chwaraewyr sy’n chwarae yn y gystadleuaeth yn cael cyfle go iawn i gymryd y camau cyntaf tuag at eu dewis i dîm Olympaidd 2016. Fel y gwyddoch, mae Cymru yn bencampwyr y byd ac wedi cystadlu yng nghyfres 7 bob ochr mewn lleoliadau fel Dubai, Hong Kong, Wellington a Las Vegas. Mae llawer o dîm cenedlaethol Cymru ar hyn o bryd, gan cynnwys Shane Williams, James Hook a Jamie Roberts, wedi cynrychioli’r uned saith bob ochr ar un adeg, felly mae’n amlwg yn elfen hanfodol yn natblygiad y chwaraewyr."


 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

'Hyd  at Gemau Cymru 2011, pel-droed oedd fy nghamp i. Roeddwn i'n rhan o academi clwb Dinas Caerdydd am 10 mlynedd, ond roeddwn newydd gael fy rhyddhau ac mi roeddwn i'n chwilio am glwb newydd. Cymerais ran yn nhwrnament 7-bob-ochr Gemau Cymru i helpu'r ysgol allan can eu bod nhw'n brin o chwaraewyr. Buaswn i fyth wedi dychmygu be ddigwyddodd nesaf! Roedd rheolwr 7-bob-ochr Cymru, Paul John, yno ac fe ges i gynnig i ymarfer gyda tim datblygiadol Cymru. O fewn wythnos roeddwn ni yn cynrychioli'r tim yn Rwmania, ac ers hynny, dwi wedi arwyddo cytundeb i fod yn rhan o dim llawn Cymru, ac wedi bod yn Sri Lanka, Seland Newydd a Las Vegas yn barod eleni yn chwarae. I gyd diolch i Gemau Cymru!'

 

 

 

Y Broses Ddethol: 

  • Bydd yr 8 tîm gorau o gystadleuaeth rygbi 7 bob ochr genedlaethol yr Urdd yn cael eu gwahodd
  • Bydd 8 tîm addawol yn cael eu gwahodd o dan arweiniad Undeb Rygbi Cymru

  

Lleoliad: Stadiwm Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd

 

Parcio ac Arlwyo 

 

  • Defnyddiwch faes parcio Stadiwm Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd.
  • Bydd Fan Arlwyo ar gael at ddefnydd cystadleuwyr a chefnogwyr.



 

Grwpiau:
  • gemaucymru