Urdd Gemau

  • Hafan
  • Beth yw Gemau Cymru?
  • Newyddion
  • Athletwyr
    • Pentref Athletwyr
    • Cit
    • Trafnidiaeth
    • Costau
    • Côd Ymddygiad
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Gwirfoddolwyr
    • Rolau
    • Hyfforddiant
    • Pam gwirfoddoli?
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Partneriaid
  • Chwaraeon
    • Athletau
    • Boccia
    • Canwio
    • Gymnasteg
    • Nofio
    • Pêl-droed i ferched
    • Pêl-rwyd
    • Rygbi
    • Triathlon
    • Hwylio
    • Sboncen
    • Rhwyfo Dan Do
    • Tenis Bwrdd
  • Prosiect Cyfryngau
  • urdd.org

  • English
  • Cymraeg



Rolau

Mae Gemau Cymru angen nifer o wirfoddolwyr mewn gwahanol rolau i sicrhau gŵyl lwyddiannus. Ceisiwn sicrhau ein bod yn cynnig eu rôl o ddewis i wirfoddolwyr; ond yn anffodus nid yw’n bosib bob tro.  Mae Gemau Cymru yn ddigwyddiad dwyieithog ac mae croeso i wirfoddolwyr Cymraeg a di-Gymraeg gofrestru. Fodd bynnag ceisiwn sicrhau mai’r gwirfoddolwyr dwyieithog fydd mewn rolau sy’n gofyn am gyswllt agos gyda’r cyhoedd, athletwyr a’r Wasg.

Eleni rydym wedi penodi pedwar rôl gwahanol i wirfoddolwyr:

Cynorthwy-ydd Cystadleuaeth

Cynorthwy-ydd Gweinyddol

Cynorthwy-ydd y Wasg

Brandio  

Cynorthwy-ydd Cystadleuaeth

Gwirfoddolwyr sydd yn delio’n uniongyrchol gyda’r gystadleuaeth megis… 

  • Sgorwyr – Pêl-rwyd
  • Amserwyr – Nofio a Triathlon
  • Cynorthwywyr Caeau – Pêl-droed a Rygbi
  • Cynorthwywyr Tîm – Pêl-droed
  • Dyfarnwyr – Triathlon
  • Marsialiaid – Nofio Triathlon
  • Cynorthwywyr Canlyniadau – Gymnasteg, Nofio a Rygbi
  • Cydlynwyr Gemau - Pêl-droed

Bydd y rôl yma hefyd yn cynnwys y dyletswyddau canlynol:

  • Cynorthwyo gyda dosbarthu canlyniadau o amgylch y lleoliad
  • Cynorthwyo gyda seremonïau gwobrwyo
  • Cefnogi’r Corff Llywodraethu Cenedlaethol i wneud yn siŵr bod popeth yn rhedeg yn ddiffwdan
  • Cynorthwyo â chlirio’r ardal chwarae ar ddiwedd y gystadleuaeth

Gwybodaeth ychwanegol Bydd y sifftiau yma yn ddibynnol ar amser y gystadleuaeth y byddwch yn gweithio ynddi. O ganlyniad, bydd amser cychwyn y rôl yma yn debygol o fod yn hwyrach na’r roliau arall. Efallai bydd angen i wirfoddolwyr gwblhau hyfforddiant ychwanegol yn ogystal â’r diwrnodau hyfforddiant, i sicrhau bod gwirfoddolwyr yn medru cwblhau eu dyletswyddau yn effeithiol.  

Cynorthwy-ydd gweinyddol  

Gwirfoddolwyr sydd yn gyfrifol am elfennau gweinyddol y gystadleuaeth megis…

  • Cofrestru cystadleuwyr
  • Ymholiadau
  • Cofrestru camerâu
  • Gwerthu rhaglenni
  • Stiwardio (yn wahanol i marsialiaid)
  • Paratoi’r safle/lle chwarae ar ddechrau’r gystadleuaeth
  • Parcio a tywys cystadleuwyr a gwylwyr

Gwybodaeth ychwanegol Ni fydd y sifftiau yma yn ddibynnol ar amser y gystadleuaeth y byddwch yn gweithio ynddi. O ganlyniad, byddwch yn debygol o gychwyn tipyn yn gynharach na chychwyn y gystadleuaeth.  

Cynorthwy-ydd y Wasg 

Gwirfoddolwyr sydd yn gyfrifol am gasglu gwybodaeth ar gyfer y Wasg.

Dyletswyddau:

  • Cynorthwyo rheolwr y wasg gyda pharatoi straeon newyddion
  • Gweithio gyda thîm y wasg/marchnata i lwytho lluniau a straeon ar Twitter, Facebook a gwefan Gemau Cymru
  • Cynnal cyfweliadau gyda cystadleuwyr buddugol

Gwybodaeth ychwanegol Bydd y sifftiau yma yn ddibynnol ar amser y gystadleuaeth y byddwch yn gweithio ynddi. O ganlyniad, bydd eich amser cychwyn yn debygol o fod yn hwyrach na’r roliau arall.  

Brandio

Cynorthwyo â chasglu a dosbarthu cyfarpar brandio rhwng lleoliadau’r cystadlaethau. Byddwch yn teithio, yn fan Gemau Cymru, o un lleoliad i’r llall yn dosbarthu cyfarpar a deunydd marchnata ar gyfer y cystadlaethau. Gwybodaeth ychwanegol Bydd y sifftiau yn amrywio o ddydd Iau i ddydd Sul yn cychwyn  yn y prynhawn ac yn gweithio tua’r nos. Bydd pob gwirfoddolwr yn derbyn hyfforddiant penodol a manwl i sicrhau eu bod yn hyderus yn ei rôl yn ystod y digwyddiad. Cliciwch ar y tab hyfforddiant am fwy o wybodaeth.

Grwpiau:
  • gemaucymru