
Rhwyfo Dan Do
Mae Rhwyfo Cymru yn falch iawn i fod yn rhan o Gemau Cymru eleni. Mae'n rhoi cyfle i ni i rhoi’r cyfle i rai o’n rhwyfwyr ifanc i gymryd rhan mewn digwyddiad aml-chwaraeon - ar gyfer nifer ohonynt dyma eu profiad cyntaf o ddigwyddiad o'r fath. Mae ein digwyddiad yn seiliedig ar y Ergometer Rhwyfo yr ydym ni yn defnyddio am hyfforddi a monitro perfformiad.
Llysgennad: Zak Lee-Green

Cymerais fy strôc gyntaf mewn cwch rhwyfo yng Nghlwb Rhwyfo Llandaf yng Nghaerdydd gydag Ysgol Plasmawr. Mi gymrais at y gamp yn syth, ac yn 2007 ar ôl lot o hyfforddiant ac ymarfer caled cefais wahoddiad i Dîm Rhwyfo Cymru. Dwi nawr yn ymarfer ym Manceinion lle yr wyf yn astudio Deintyddiaeth yn y Brifysgol ac wedi cynrychioli Prydain Fawr dros y tair blynedd diwethaf ym Mhencampwriaethau Dan-23 y Byd. Fy uchelgais yw sefyll ar ben y podiwm yn 2016 yn y Gemau Olympaidd yn Rio.
Rhwyfo dan do yw’r prawf mwyaf o gryfder corfforol a meddyliol. Mae'n gyfle i wthio eich hun at derfyn eich corff ac i weld pa mor gyflym allwch chi fynd. Dyna pam yr wyf wrth fy modd yn y gamp hon! Rwy'n falch iawn o fod yn llysgennad ar gyfer Gemau Cymru ac yn gobeithio y byddwch yn cael y ras gorau y gallwch chi. Ewch amdani a chystadlwch i ennill!
Proses Ddethol:
Mae'r cystadleuwyr yn gymwys yn dilyn Pencampwriaethau Dan Do Cymru yn y categorïau canlynol:
- Iau 16 (Blwyddyn 11)
- Iau 15 (Blwyddyn 10)
- Ieuenctid (Blynyddoedd 11-13)
Lleoliad: Canolfan Chwaraeon Cymru




