Urdd Chwaraeon

  • Hafan
  • Beth yw Gemau Cymru?
  • Newyddion
  • Athletwyr
    • Pentref Athletwyr
    • Cit
    • Trafnidiaeth
    • Costau
    • Côd Ymddygiad
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Gwirfoddolwyr
    • Rolau
    • Hyfforddiant
    • Pam gwirfoddoli?
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Partneriaid
  • Chwaraeon
    • Athletau
    • Boccia
    • Canwio
    • Gymnasteg
    • Nofio
    • Pêl-droed i ferched
    • Pêl-rwyd
    • Rygbi
    • Triathlon
    • Hwylio
    • Sboncen
    • Rhwyfo Dan Do
  • urdd.org

56
  • English
  • Cymraeg



Pentref Athletwyr

Mae Pentref yr Athletwyr ar gyfer Gemau Cymru, 2012 ym Mhrifysgol Morgannwg.

Prifysgol Morgannwg, Pontypridd, Cymru, CF37 1DL.

Llety

Glamorgan Court a Mountain Halls 

Ystafell wely sengl en suite yw’r llety; mae fflatiau yn cynnwys 5 i 6 ystafell wely, cegin gymunedol gyda thostiwr, tegell, oergell, ffwrn, microdon, llestri a chyllyll a ffyrc. Hefyd darperir haearn a bwrdd smwddio.

Cafodd Cwrt Morgannwg ei adnewyddu’n ddiweddar a mae Mountain Halls yn ddatblygiad  newydd a agorodd ym mis Mai 2011. Os oes gennych unrhyw anghenion arbennig new ofynion penodol o ran phroblemau symudedd a fyddai’n bosib i chi adael ni wybod o flaen llaw i’n galluogi ni i sicrhau eich bod mor gyfforddus a phosib tra yn aros gyda ni.

Mae'r campws wedi cael ei logi yn arbennig ar gyfer athletwyr Gemau Cymru; ni fydd unrhyw grwpiau nac unigolion eraill ar y campws heblaw am yr athletwyr, staff Gemau Cymru, a staff y Brifysgol. 

Gofynnwn i chi gofrestru yng Nghanolfan Gynhadledd Morgannwg wrth gyrraedd y Brifysgol.

Arlwyo

Mae brecwast yn cael ei gynnig i bawb sy'n aros yn y pentref.  Mae talebau yn cael eu darparu wrth gofrestru.  Mae’r rhain yn eich galluogi i brynu eitemau brecwast (poeth ac oer, a diod) hyd at £3.50 o fwyty Stilts (gweler map y safle).  

Nid yw Gemau Cymru yn darparu cinio na swper.  Mae cyfleusterau hunanarlwyo yn y campws yn ogystal â siop ac mae bwyty Stilts ar agor tan 19:00 ar ddydd Gwener 13eg o  Orffennaf yn gwerthu bwydydd poeth ac oer i athletwyr am brisiau rhesymol. Mae digon o beiriannau gwerthu bwyd ar gael ar  y campws hefyd. 

Mae gan bob un o safleoedd y gemau gyfleusterau arlwyo, unai caffi neu fan arlwyo symudol.  Gwahoddwn yr holl athletwyr i ddod ynghyd ar ddydd Sadwrn 14eg o Oorffennaf ym Mhentref yr Athletwyr. Yno bydd adloniant i’w diddanu. Dyma gyfle gwych i ddathlu’r gemau a chymdeithasu gydag athletwyr eraill o bob disgyblaeth.  

Cyfleusterau eraill y Pentref Athletwyr

Mae cyfleusterau undeb newydd sbon Prifysgol Morgannwg, sy’n cynnwys siop goffi, caffi rhyngrwyd, sgrîn fawr, siop a thwll yn y wal ar gael at ddefnydd yr holl athletwyr. 

Mae cyfleusterau'r ganolfan hamdden ar gael ar y campws ond mae’n rhaid talu £1.90 am ddefnyddio’r gampfa, cwrt sboncen a sawna. Mae’r ganolfan hamdden ar agor 08:00-22:00 ddydd Gwener a 10:00-17:00 ddydd Sadwrn a dydd Sul. 

Mae Neuadd Chwaraeon fawr ar gael ym Mharc Chwaraeon Morgannwg.  Gellir darparu cludiant i fynd â chi yma, sydd 5 munud o’r campws. 

Diogelwch a Gofal

Yn ystod y penwythnos, bydd staff diogelwch 24 awr y dydd o fewn y llety ac ar y safle a chamerâu CCTV yn weithredol. 

Mae staff cymorth cyntaf ar bob safle. Mae pwynt gwybodaeth ar agor rhwng 07:30 a 22:00 yn ystod y penwythnos. Yn ogystal, mae myfyrwyr Prifysgol Morgannwg ar y safle yn gweithio fel llysgenhadon i gynorthwyo gydag unrhyw anghenion llety.

Rhifau ffôn cyswllt:

Prif dderbynfa Prifysgol Morgannwg:  01443 480480 (24/7)

Llety’r Brifysgol:  01443 482845 (24/7)

Canolfan gynadleddau Morgannwg / ymholiadau:  01443482002

Grwpiau:
  • gemaucymru