
Pêl-droed i ferched
“Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn falch iawn o fod yn rhan ac i gefnogi Gemau Cymru. Rydym yn awyddus i helpu hyrwyddo rhaglen ardderchog o chwaraeon yr Urdd sy’n annog ymgorffori'r iaith Gymraeg ym mywydau pobl ifanc ledled Cymru”
Llysgennad:
Gwennan Harries

Rwyf wastad wedi cael diddordeb mewn pêl-droed ers o ni jest yn medru gallu cerdded yn ôl Mam a Dad... O ble daeth y diddordeb yma dwi ddim cweit yn siŵr! Ond yn tyfu lan, roeddwn yn frwd i neud pob math o chwaraeon yn yr ysgol a ges i fy atynnu i bêl-droed trwy'r gwaith tîm ac mi oedd e'n ffordd dda o wneud ffrindiau newydd. Hefyd, o ni yn joio dangos i'r bechgyn bod merched yn medru chwarae hefyd!! Mae'n gêm gyflym, ddawnus ac yn gystadleuol ac mae'n tynnu gwahanol fathau o bobl at ei gilydd trwy gefnogi neu chwarae.
Cynrychioli Cymru a Phrydain ar y safon uchaf yw un o'r teimladau gorau yn y byd. Rwy'n falch iawn o gael gwneud. Does dim llawer o bobl yn ffodus i gael y cyfleoedd rwyf wedi ac i gael gweld tipyn o'r byd wrth chwarae hefyd. Mae'n freuddwyd sy’n dod yn wir bob tro rwy'n rhoi'r crys coch ymlaen ac yn canu'r anthem ac mae'n werth yr holl waith caled yn paratoi at y foment yna.
Dyma rai o uchafbwyntiau fy ngyrfa hyd yn hyn:
- 40 cap llawn dros Gymru, gyda 14 gol.
- Capten Cymru dan 19 rhwng 2006 a 2007.
- Cystadlu mewn dwy Gemau Myfyrwyr y Byd gyda Phrydain yn 2007 a 2009, yn ennill medal efydd yn 2009.
- Rwyf wedi bod yn ffodus iawn i chwarae mewn timoedd llwyddiannus yn fy ngyrfa hyd yn hyn, gan ennill dau ddyrchafiad gyda Menywod Caerdydd a 5 cwpan Cymru.
- Ar ôl cyfnod o ddwy flwyddyn gyda Bryste symudais i Everton, un o dimoedd mwyaf Lloegr. Rwyf wedi cyrraedd rowndiau terfynol dau gwpan gyda Everton, gan ddod yn ail yn y Premier League Cup ac ennill yr FA Cup yn 2010, a chyrraedd yr 8 olaf yn nhymor 2010/2011 y Champions League.
Mae'n fraint fawr cael bod yn llysgennad ar gyfer Gemau Cymru, y gemau cyntaf fel hyn yng Nghymru. Mae'r Gemau yn dathlu ysbryd y Gemau Olympaidd yn Llundain haf nesaf, ac mae'n gyfle i bobl ifanc arddangos eu talentau ar lwyfan Cenedlaethol. Mae’n gyfle i brofi sut mae cystadlaethau mawr yn gweithio ac mi fydd yn codi safon athletwyr ifanc Cymru a gobeithio ysbrydoli fwy i gymryd rhan ar bob lefel. Rwy'n falch iawn o gael bod yn rhan o hyn a gobeithiaf helpu ddatblygu sêr y dyfodol yn y byd chwaraeon yng Nghymru, yn enwedig pêl-droed menywod.
Y Broses dethol:
Mi fydd yr 8 tim gorau yng nghystadleauaeth pel droed i ferched yr Urdd yn cael eu gwahodd i fynychu.
Lleoliad: Parc Chwaraeon Morgannwg
Parcio ac Arlwyo:
- Defnyddiwch faes parcio'r ganolfan.
- Bydd fan arlwyo ar gael at ddefnydd cystadleuwyr a chefnogwyr.




