Urdd Gemau

  • Hafan
  • Beth yw Gemau Cymru?
  • Newyddion
  • Athletwyr
    • Pentref Athletwyr
    • Cit
    • Trafnidiaeth
    • Costau
    • Côd Ymddygiad
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Gwirfoddolwyr
    • Rolau
    • Hyfforddiant
    • Pam gwirfoddoli?
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Partneriaid
  • Chwaraeon
    • Athletau
    • Boccia
    • Canwio
    • Gymnasteg
    • Nofio
    • Pêl-droed i ferched
    • Pêl-rwyd
    • Rygbi
    • Triathlon
    • Hwylio
    • Sboncen
    • Rhwyfo Dan Do
    • Tenis Bwrdd
  • Prosiect Cyfryngau
  • urdd.org

  • English
  • Cymraeg



Hwylio

 

 

 

“Mae Hwylio Cymru yn falch iawn i fod yn rhan o ddigwyddiad Gemau Cymru yn 2012 ac i gyd-weithio gyda'r Urdd. Bydd hwylwyr o bob rhan o Gymru yn teithio i'r digwyddiad ac rydym yn disgwyl tua 120 o hwylwyr ifanc rhwng 7 - 18 oed i gystadlu dros dau ddiwrnod ar ddyfroedd Bae Caerdydd.Rydym yn gobeithio y bydd y digwyddiad yn arddangos ein camp gyffrous i gynulleidfa newydd ac yn eu hysbrydoli i roi cynnig arni ychydig ddyddiau cyn cychwyn y Gemau Olympaidd.”

 

 

 Llysgennad: Ellie Meopham

1.       Enw, oed, o ble, pa ysgol, pa glwb

Ellie Meopham, 18, Ysgol Bro Gwaun, Clwb Hwylio Bae Abergwaun

 2. Pryd a pham wnaethoch ddechrau hwylio?

Dechreuais hwylio oherwydd bod fy nheulu yn hwylwyr brwd ac wedi fy ysbrydoli i ddysgu. Dechreuais pan roeddwn yn 10 oed, ac nid wyf wedi edrych yn ôl ers hynny, ac eithrio yng nghanol y gaeaf pan fydd yn bwrw eira.

3.       Beth yw dy lwyddiant mwyaf diweddar?
Eleni fe es i fyny at Largs heulog yn yr Alban i gystadlu ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol Ieuenctid Prydain a dwi nawr yn Bencampwr Ieuenctid Cenedlaethol - y ferch gyntaf erioed i ennill y teitl yma. Cefais fy newis fel yr hwyliwr benywaidd Radial i gynrychioli Prydain ym Mhencampwriaethau ISAF Ieuenctid y Byd yng Nghyprus yn ystod yr haf, mae hyn yn anrhydedd mawr nid yn unig ydw i'n mynd allan yno i gynrychioli Prydain, ond i gynrychioli CYMRU!

4.       Dy ddyhead di? 

Mae Hwylio yn rhan arbennig iawn o fy mywyd a dwi’n awyddus i’w gadw fel yna. Nid oes dal lle eith hwylio â fi, os fyddai yn parhau i hwylio neu beidio pwy a ŵyr, ond yr hyn sy'n bwysig i mi yw y byddaf bob amser yn gallu mynd i ffwrdd ar gwch unrhyw bryd, naill ai ar fy mhen fy hun neu gyda ffrindiau, am fordaith hamddenol, neu ras llawn adrenalin.

 5. Pwy sydd wedi cael y dylanwad mwyaf ar dy yrfa di?
Mae fy nheulu bob amser wedi bod yn gefnogol, hebddyn nhw fyddwn i byth wedi llwyddo yn y maes. Fodd bynnag, bydd y bobl  rydw i wedi hwylio ochr yn ochr â hwy ers yn fach bob amser yn un o’r dylanwadau mwyaf. Yr wyf yn dal i hwylio yn awr gyda'r bobl yr wyf wedi bod yn hwylio gydag ers 8 mlynedd. Rydym wedi dysgu llawer oddi wrth ein gilydd nid yn unig yn dechnegol ond o ran agwedd tuag at hwylio. Un o'r dywediadau hyfforddi gorau erioed - Ewch allan gan wenu a mwynhewch'.

 6. Oes gen ti unrhyw ddefodau cyn cystadlu?
Rydw i’n sicrhau fy mod yn clymu fy hwyl wrth ben y mast, ac mae bwng yn fy nghwch. Cyn belled bod y cwch yn barod i rasio  does dim  unrhyw reswm pam na allaf hwylio fy ngorau, felly fy nefod yw rigio fy nghwch sbo.

 7. Pam fod digwyddiad fel Gemau Cymru yn bwysig? 

Mae'n gyfle i ddathlu diwylliant chwaraeon yn gyffredinol. O'r ffrindiau gydol oes a wnewch, y cyffro a gewch pan fyddwch yn gwthio eich hun a llwyddo. Hefyd i’r  cystadleuwyr iau, mae'n blas o'r awyrgylch mewn digwyddiad rhyngwladol mawr, pan fydd cannoedd o bobl yn dod at ei gilydd, yn unedig ac yn rhannu’r run angerdd am chwaraeon.

 

 

Proses Ddethol:

 

  • Mae'n ddigwyddiad penwythnos ond mae croeso i hwylwyr fynychu un o'r ddau ddiwrnod.
  • Croeso i bawb o bob gallu. Mae’r ddigwyddiad ar agor i bob hwyliwr.
  • Digwyddiad: Cymdeithas Hwylio Cymru Ysgolion Cymru a Phencampwriaeth Clybiau Hwylio
    Categori oedran: 7-18 oed
  • Bydd modd cofrestru ar wefan Hwylio Cymru, sydd yn mynd yn fyw ym mis Mai.

 

Lleoliad:  Clwb Hwylio Bae Caerdydd 

 


Grwpiau:
  • gemaucymru