Urdd Chwaraeon

  • Hafan
  • Beth yw Gemau Cymru?
  • Newyddion
  • Athletwyr
    • Pentref Athletwyr
    • Cit
    • Trafnidiaeth
    • Costau
    • Côd Ymddygiad
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Gwirfoddolwyr
    • Rolau
    • Hyfforddiant
    • Pam gwirfoddoli?
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Partneriaid
  • Chwaraeon
    • Athletau
    • Boccia
    • Canwio
    • Gymnasteg
    • Nofio
    • Pêl-droed i ferched
    • Pêl-rwyd
    • Rygbi
    • Triathlon
    • Hwylio
    • Sboncen
    • Rhwyfo Dan Do
  • urdd.org

56
  • English
  • Cymraeg



Cwestiynau Cyffredin

 

Cwestiynau Cyffredin

A fydda i’n derbyn unrhyw hyfforddiant? 

Mae dau ddiwrnod o hyfforddiant wedi’u trefnu, ond dim ond un fydd angen i chi fynychu.

Dydd Sul 20fed o Fai – Gwersyll yr Urdd, Caerdydd

Dydd Sul 27ain o Fai – Gwersyll yr Urdd, Caerdydd

Os na allwch chi fynychu unrhyw un o’r dyddiau hyfforddi mae croeso i chi gofrestru i wirfoddoli gan y byddwn yn cynnal sesiynau dal fyny yn y gwersyll. Byddwn yn rhoi blaenoriaeth i wirfoddolwyr sydd yn medru mynychu un o’r dyddiau hyfforddi uchod.

Am fwy o wybodaeth cliciwch ar y tab Hyfforddiant. 

Am faint fydd disgwyl i mi wirfoddoli? 

Mae hyn yn dibynnu’n llwyr ar faint o amser sydd gennych chi yn rhydd a’r rôl rydym wedi dewis i chi, ond byddwn yn cytuno ar amserlen ymlaen llaw. Mae cyfle i chi nodi ar y ffurflen gofrestru pa ddyddiau fyddwch chi ar gael pan yn cofrestru, bydd dyddiadau ac amseroedd yn weladwy ar y bas data. Byddem yn gwerthfawrogi eich gonestrwydd ynglŷn â’r oriau allwch chi gynnig. Byddwn yn cynnig rôl sydd yn addas i’ch oriau chi.

Plîs nodwch bod pob rôl gyda amseroedd sifft gwahanol, cliciwch ar y tab Roliau am fwy o wybdoaeth.

Beth fydd rhaid i ni wisgo wrth wirfoddoli yn y Gemau? 

Byddwn yn darparu dillad pwrpasol i wirfoddolwyr wisgo yn ystod y Gemau. Bydd gwirfoddolwyr yn derbyn siaced glaw, hŵdi a crys-t i wisgo (lluniau isod). Fydd disgwyl i wirfoddolwyr gwisgo trowsus tracwisg glas neu du gyda’r wisg.

Sut allai wirfoddoli?  

Yr unig ffordd i gofrestru eleni yw ar-lein. Cliciwch ar y tab cofrestru i fynd i’r tudalen cofrestru, yma fe fyddwch yn cael y cyfle i greu proffil gwirfoddolwyr i’ch hunan. I gofrestru cliciwch yma

Pryd ddylwn i gofrestru fy niddordeb i wirfoddoli? 

Y dyddiad cau i gofrestru yw 15fed o Ebrill.

Pryd fyddai’n derbyn ymateb parthed fy nghais i wirfoddoli? 

Yn syth ar ôl cofrestru fe fyddwch yn derbyn ebost i gadarnhau eich bod wedi cofrestru’n llwyddiannus. Yn yr ebost, bydd cyfrinair yn cael ei gynnwys er mwyn i chi dderbyn mynediad i’ch proffil gwirfoddolwyr. Mae’n bwysig eich bod chi’n cadw cofnod o’r cyfrinair.  Os nad ydych wedi derbyn ebost, cysylltwch a ni yn syth.

Alla i ddewis y lleoliad a’r chwaraeon y bydda i’n gwirfoddoli iddynt?  

Mae yna gyfle i chi nodi ar y ffurflen gais pa chwaraeon/lleoliad fydd eich dewis cyntaf, ond mae’n bwysig nodi na allwn sicrhau y dewis hwn. 

Oes cyfle i mi wirfoddoli gyda’m ffrindiau a theulu? 

Oes, mae angen sicrhau bod eich ffrindiau/teulu wedi cofrestru ymlaen llaw ac yna byddwn yn gwneud ein gorau i sicrhau eich bod yn gwirfoddoli gyda’ch gilydd.

Sut fyddai’n gwbod lle a pryd fyddai’n gweithio?  

Ar ôl y dyddiad cau, fe fyddwn yn gosod roliau i wirfoddolwyr yn seiliedig ar eu dewisiadau a’u argaeledd. Fe fyddwn ni’n gosod y wybodaeth yma ar y basdata gwirfoddolwyr a byddwch yn derbyn ebost sy’n hysbysebu eich gwybodaeth sifft. Bydd rhaid i chi gadarnhau eich sifftiau ar eich proffil gwirfoddolwyr. Byddwch yn ymwybodol o’ch roliau cyn mynychu’r diwrnodau hyfforddiant.    

A fydda i yn derbyn unrhyw gostau? 

Ni fyddwch yn derbyn tâl am eich gwaith gwirfoddol ond byddwn yn sicrhau na fyddwch ar eich colled. Mae croeso i chi gysylltu â ni am unrhyw fanylion pellach parthed hyn.

Alla i wirfoddoli os oes gennyf anabledd? 

Gallwch. Mae posib i wirfoddolwyr anabl weithio mewn amryw o roliau. Os oes gennych chi unrhyw bryderon peidiwch ag oedi cyn cysylltu â ni. 

A fydd llety a thrafnidiaeth ar gael i wirfoddolwyr? 

Na, yn anffodus nid oes gan Gemau Cymru'r gyllideb i dalu am lety na thrafnidiaeth i wirfoddolwyr, bydd disgwyl i chi drefnu a thalu am hyn eich hun.

Gyda pwy ddylwn i siarad os oes gennyf gwestiwn/problem? 

Aled Lewis: aledlewis@urdd.org / 02920 635687

 

 

Grwpiau:
  • gemaucymru