
Canwio
“Mae Canŵ Cymru yn falch iawn y bydd canŵio yn ymddangos yn Gemau Cymru yr haf hwn. Bydd ein cystadlaethau yn digwydd yng nghyfleusterau cenedlaethol newydd Cymru: Canolfan Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd. Mae Gemau Cymru yn gyfle ardderchog i athletwyr ifanc ddangos eu talent ac yn cynnig rhaglen etifeddiaeth i gefnogi Gemau Llundain 2012. Mae Canŵ Cymru yn edrych ymlaen at benwythnos llwyddiannus ac i barhau i gydweithio gyda'r Urdd a'r partneriaid eraill sydd wedi gweithio'n galed i wneud y digwyddiad hwn yn realiti.”
Llysgenhadon:
Roisin Lee Edwards

"Dwi wir yn mwynhau canŵio a dwi wedi bod yn rhan o’r chwaraeon ers yn chwe mlwydd oed. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at Gemau Cymru a dwi’n credu y bydd pawb yn mwynhau’r profiad o brofi math newydd o chwaraeon, yn enwedig canŵio slalom gan ei fod yn gyffrous. Dwi’n gobeithio bydd y profiad yma yn ysbrydoli pobl ifanc i barhau i gymryd rhan mewn canŵio."
Y Broses Ddethol
Am fwy o fanylion, cysylltwch a Nigel Midgley midgley852@btinternet.com
Lleoliad: Canolfan Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd
Parcio ac Arlwyo:
- Defnyddiwch faes parcio Pwll Rhyngwladol Caerdydd, ond parciwch mor agos a phosib at y Ganolfan Dwr Gwyn Rhyngwladol.
- Bydd bwyd ar gael ar y safle.




