
Boccia
"Mae Chwaraeon Anabledd Cymru yn llongyfarch yr Urdd ar greu cystadleuaeth o naws a gellir pob plentyn ysgolion uwchradd cymryd rhan. I ni mae’n bwysig bod plant anabl yn cael yr un cyfleoedd a’i ‘peers’ abl. Mae Chwaraeon Anabledd yn gryf yng Nghymru gyda dros filiwn o gyfleoedd i bobl cymryd rhan mewn chwaraeon, a 25% medalau aur i dîm Prydain wedi ei hennill gan athletwyr o Gymru yn y Gemau Paralympaidd Beijing 2008. Y gobaith yw bydd y Gemau yma yn sicrhau fwy o gystadleuwyr a thalent i’w datblygu yn ein rhaglen Academi lwyddiannus ni. Pob lwc i bawb yn y Gemau"
Llysgennad: Aled Sion Davies
"Cefais fy ngeni â hemi-hemilia yn fy nghoes dde, yr holl ffordd o’r glun i lawr. Golyga hyn mai un asgwrn yn unig sydd gen i yn fy nhroed ac felly dim cymalau ac anabledd difrifol.
Dechreuodd fy llwyddiant ym myd chwaraeon yn 2006 pan enillais wobr efydd a gwobr aur ym Mhencampwriaeth Ieuenctid y Byd i rai ag anableddau. Rwyf wedi cystadlu, ac wedi bod yn bencampwr ieuenctid y byd bum gwaith ers hynny. Fi hefyd sydd yn dal record ieuenctid y byd.
Yn ddiweddar rwyf wedi symud i gystadlu yn erbyn oedolion ac fe’m dewiswyd ar gyfer Pencampwriaeth Athletau IPC y Byd yn Seland Newydd. Dychwelais o’r bencampwriaeth gyda medal arian yn y ddisgen a methais gyrraedd y fedal efydd yn y shot o drwch blewyn gan orffen yn bedwerydd.
Bellach rwyf yn athletwr llawn-amser ac yn dilyn fy mreuddwyd o ennill aur yn Llundain 2012"
Y Broses Ddethol:
- Cystadleuaeth rhyw-cymysg, gyda chystadleuwyr yn cael ei henwebu gan Boccia Cymru yn dilyn digwyddiad diweddar mewn cystadlaethau Rhanbarthol a Chenedlaethol Pencampwriaethau Boccia.
- Uchafswm o 8 chwaraewyr, 2 grŵp o 4, ac yn symud ymlaen i rownd Gynderfynol a Therfynol.
Lleoliad: Y Neuadd ar y llawr cyntaf, Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru (Cartref Academi Boccia Cymru)
Parcio ac Arlwyo:
- Defnyddiwch faes parcio Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru.
- Bydd maes parcio Talu ac Arddangos hefyd ar gael.
- Bydd Caffi'r Ganolfan ar agor.





