
Beth yw Gemau Cymru?
Gŵyl aml chwaraeon i bobl ifanc Cymru yw Gemau Cymru. Eleni caiff ei chynnal rhwng 13-15 Gorffennaf 2012 mewn gwahanol leoliadau o amgylch dinas Caerdydd. Mae’n benwythnos sy’n dal ysbryd Gemau Olympaidd a Pharalympaidd 2012.
Mae Gemau Cymru yn canolbwyntio ar amryw o elfenau cystadleuol gwahanol. Mae’r chwaraeon yn derbyn cefnogaeth eu Corff Llywodraethu perthnasol, ac yn dilyn eu strwythur hwy o ran proses ddethol ac oedran y cystadleuwyr. Y chwaraeon sydd wedi eu cadarnhau hyd yma ar gyfer Gemau Cymru 2012 yw:
- Athletau
- Boccia
- Canŵio
- Gymnasteg
- Hwylio
- Nofio
- Pêl-droed i ferched a thimoedd aml anabledd
- Pêl-rwyd
- Rhwyfo Dan do
- Rygbi 7 bob ochr i fechgyn
- Sboncen
- Triathlon
Mae’r brifddinas yn leoliad delfrydol ar gyfer Gemau Cymru gyda’i chyfleusterau gwych i roi llwyfan cenedlaethol i'r bobl ifanc arddangos eu talentau.
Dewch i weld y GORAU o dalent ieuenctid Cymru - yn wir, dyma’r athletwyr fydd yn cynrychioli Cymru yng Ngemau Olympaidd y dyfodol.
Mae’r cystadleuwyr yn cael eu gwahodd i gystadlu yn Gemau Cymru yn dilyn proses ddethol yn dilyn cyngor gan y Corff Llywodraethu Cenedlaethol perthnasol. Bydd pob cystadleuydd yn derbyn pecyn gwahoddiad Gemau Cymru, a fydd yn cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol.
Mae Gemau Cymru yn darparu cyfle i’r cyhoedd weld sêr Gemau Olympaidd y dyfodol ar eu tir eu hunain gan greu etifeddiaeth weledol i Chwaraeon Cymru yn sgîl Gemau Olympaidd 2012.
Mae gan yr Urdd brofiad eang o drefnu digwyddiadau mawr ac wrth gytuno i ddarparu Gemau Cymru mae’r Urdd yn cydnabod y cyfleoedd gwerthfawr a ddaw i bobl ifanc Cymru. Mae’r Urdd yn hyderus y daw Gemau Cymru yn ddigwyddiad sefydlog a llwyddiannus yng nghalendr Chwaraeon Cymru ac y bydd yn parhau yn rhan bwysig o strategaeth chwaraeon yr Urdd am flynyddoedd i ddod.
Mae Gemau Cymru yn bartneriaeth rhwng y sector gyhoeddus, y sector preifat a’r sector wirfoddol.

Efa Grufudd Jones Prifweithredwr Urdd Gobaith Cymru, Carwyn Jones Prif Weinidog Cymru a Dr Huw Jones Prifweithredwr Chwaraeon Cymru yn Lansiad Gemau Cymru 2012.





