Urdd Chwaraeon

  • Hafan
  • Beth yw Gemau Cymru?
  • Newyddion
  • Athletwyr
    • Pentref Athletwyr
    • Cit
    • Trafnidiaeth
    • Costau
    • Côd Ymddygiad
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Gwirfoddolwyr
    • Rolau
    • Hyfforddiant
    • Pam gwirfoddoli?
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Partneriaid
  • Chwaraeon
    • Athletau
    • Boccia
    • Canwio
    • Gymnasteg
    • Nofio
    • Pêl-droed i ferched
    • Pêl-rwyd
    • Rygbi
    • Triathlon
    • Hwylio
    • Sboncen
    • Rhwyfo Dan Do
  • urdd.org

56
  • English
  • Cymraeg



Athletwyr

           

 

Diolch i Ambiwlans St. Ioan am ei parodrwydd i’n cefnogi ac i Adran Ffisiotherapi Prifysgol Caerdydd am ddarparu eu gwasanaeth ar ein cyfer yn ystod y Gemau. Fe fydd tua cant ohonynt, o fyfyrywr blwyddyn olaf i’r rhai mwyaf profiadol, yn bresennol ym Mhentref yr Athletwyr ac ym mhob lleoliad. Hefyd diolch o galon i’r arbenigwyr o Brifysgol Morgannwg (Adran Iechyd, Chwaraeon a Gwyddoniaeth) am eu rhan allweddol yn y Gemau. Mae nifer ohonynt wedi cymryd rhan mewn Gemau Olympaidd a Pharalympaidd ac ‘roeddent yn fwy na bodlon i rannu eu profiadau gyda Gemau Cymru. O ganlyniad, mae ein hathletwyr ifanc yn gallu gwerthfawrogi ac yn elwa o’r cyfleoedd mae digwyddiad fel hwn yn ei gynnig.

 

Rhaid cael gwahoddiad i gystadlu yn Gemau Cymru.

 

Mae pob un o’r chwaraeon gyda system ddethol ei hun sydd wedi ei chynghori gan y Corff Llywodraethu Cenedlaethol perthnasol. Unwaith mae’r strwythur wedi ei chadarnhau bydd y wybodaeth yma ar gael ar y wefan a bydd y cystadleuwyr llwyddiannus yn cael pecyn gwahoddiad swyddogol Gemau Cymru. Edrychwch ar dudalen y chwaraeon perthnasol os hoffech weld a yw’r cystadleuwyr wedi eu cadarnhau.

 

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau pellach cysylltwch â gemaucymru@urdd.org

 

Os nad wyt ti wedi bod yn ffodus i gael gwahoddiad eleni cofrestra i wirfoddoli yn Gemau Cymru, neu tyrd draw i gefnogi.  Mae llawer o’r cystadleuwyr eleni wedi eu gwahodd yn dilyn eu llwyddiant mewn twrnameintiau chwaraeon Urdd Gobaith Cymru, edrycha ar wefan chwaraeon yr Urdd am fwy o wybodaeth.


Grwpiau:
  • gemaucymru