
Athletau
"Mae Athletau Cymru yn falch o gefnogi Gemau Cymru. Mae dod a athletwyr ifanc o Gymru at ei gilydd o bob cwr o'r wlad, mewn amryw o wahanol chwaraeon, yn fenter gyffrous. Rydym yn dymuno pob llwyddiant i'r digwyddiad a phob lwc i'r holl gystadleuwyr"
Llysgennad: Carys Parry

“Rwyf wedi bod yn taflu'r morthwyl ers rhyw ddeuddeg mlynedd hyd yn hyn. Dechreuais mewn clwb athletau lleol, ar ôl treillio blynyddoedd yn rhedeg trawsgwlad a rhedeg trac.
Tafles i dros Ysgolion Cymru pan oeddwn i'n ifanc ac rwyf wedi cystadlu dros Gymru; y tro cyntaf yn 14 mlwydd oed. Rwyf wedi taflu'r morthwyl dros Brydain o dan 20 ag o dan 23 ym Mhencampwriaeth Ewrop a'r Byd.
Eisoes, rwyf wedi cystadlu dros Brydain o amgylch y byd, ond y fraint fwyaf yn fy ngyrfa hyd yn hyn yw cystadlu dros Gymru yn y gemau Gymanwlad, does dim un profiad arall yn debyg iddi. Mi wnes i gystadlu allan yn Awstralia yn 2006 yn gorffen yn 6ed. Blwyddyn ddiwethaf roeddwn yn cystadlu allan yn India, Delhi, lle enillais y fedal arian. Y targed nesa yw Llundain 2012 ag ar ôl hynny, y gemau Gymanwlad yn yr Alban.
Mae'n fraint cael bod yn llysgennad i Gemau Cymru. Mae achlysuron fel Gemau Cymru yn bwysig iawn i bobl ifanc ag i ddyfodol chwaraeon yng Nghymru. Edrychaf ymlaen at y Gemau, gan obeithio bydd hi'n fy ysgogi yn fwy at y Gemau Olympaidd”
Lleoliad: Stadiwm Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd
Parcio ac Arlwyo:
- Defnyddiwch faes parcio Ysgol Uwchradd Fitzalan
- Bydd fan arlwyo ar gael at ddefnydd cystadleuwyr a chefnogwyr.



