Sut i wneud cais
Sut mae gwneud cais??
Ffurflen gais yma!
CYRSIAU PRESWYL TALIEITHOL THEATR IEUENCTID YR URDD 2011:
Bydd gweithgareddau Theatr Ieuenctid yr Urdd yn cael eu cynnal ar lefel daleithiol yn 2011 yna bydd y tair talaith yn uno i lwyfannu cynhyrchiad cenedlaethol yn 2012.
Er mwyn bod yn aelod o’r Cwmni Theatr eleni mae gofyn i ti fod ar gael i fynychu un o dri cwrs preswyl a fydd yn digwydd yn ystod Gorffennaf 2011.
Mae’r cyrsiau eleni ar gyfer pobl ifanc rhwng 14 a 20 oed.
Y flwyddyn nesaf bydd y cwmni cenedlaethol yn agored i bobl ifanc rhwng 14 a 21 oed.
TALAITH Y GOGLEDD: Gwersyll yr Urdd Glanllyn (Gorffennaf 19eg i 27ain)
TALAITH Y DE: Gwersyll yr Urdd Caerdydd (Gorffennaf 20fed i 28ain)
TALAITH Y CANOLBARTH: Gwersyll Llangrannog (Gorffennaf 21 i 29)
GWNEUD CAIS:
1. Cwblha’r ffurflen gais isod.
2. Atoda lun ohonot dy hun i’r ffurflen gais.
3. Bydd y sawl a fynychodd y cyrsiau rhanbarthol yn 2010 yn cael eu derbyn i’r cyrsiau eleni heb glyweliad / heb anfon clip fidio. Ond mae’n rhaid iddynt anfon ffurflen wedi’i chwblhau.
YNA........
4. Byddwn yn dewis yr aelodau newydd mewn 2 ffordd – cewch chi ddewis pa un sydd orau i ti:
(i) drwy gyfweliad byr – trefnir dyddiadau ar ôl derbyn y ffurflenni cais;
(ii) drwy anfon clip fidio 3 munud i ni sydd yn dangos dy dalent perfformio. Gallet berfformio mewn unrhyw arddull neu fwy nag un arddull (e.e. darn dawns a darn llefaru, neu ddarn canu a darn hip-hop, neu dim ond un darn) ond ni ddylai’r clip fod yn fwy na 3 munud. Nid oes angen i’r clip gael ei ffilmio yn broffesiynol, gallet ddefnyddio dy ffôn, camera digidol, flip-cam, camera fidio ayyb. Byddwn yn derbyn y clip ar CD neu tros e-bost (ni ellir anfon clipiau mwy na 10MB ar e-bost).
5. Dyma gyfle i ti fod yn greadigol wrth gyflwyno dy hun i ni!
DYCHWELER Y FFURFLEN HON I STEFFAN PRYS, ADRAN YR EISTEDDFOD, GWERSYLL YR URDD GLAN-LLYN, LLANUWCHLLYN, BALA, GWYNEDD, LL23 7ST
Os oes gen ti gwestiwn pellach cysyllta â Steffan Prys ar 01678 541015 / steffanprys@urdd.org






