Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel
Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel 2012

Huw Ynyr Evans enillodd yr Ysgoloriaeth mewn cyngerdd gwefreiddiol.
Cyflwynwyd yr Ysgoloriaeth, gwerth £4,000, i Huw gan Bryn Terfel yn y cyngerdd a ddarlledwyd yn fyw ar S4C.
Dyma oedd penllanw ar weithgareddau Eisteddfod yr Urdd eleni.
Daeth Huw, sy'n wreiddiol o Rydymain ger Dolgellau a chyn-ddisgybl o Ysgol y Gader a Choleg Meirion Dwyfor, i'r brig wedi iddo swyno'r chwe beirniad.
Roedd rhaglen Huw yn cynnwys dehongliad o O'r Dwyrain mae'r Golau, Alessandro Acarletti; Pan ddaw'r Nos, Meirion Williams a Gitâr Abruzzese, Francesco Tosi.
Fel rhan o weithgareddau paratoi ar gyfer yr Ysgoloriaeth cafodd ddosbarth meistr gan y canwr Rhys Meirion.
Mae Huw ar fin cychwyn ei drydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Bangor lle mae'n astudio Cerddoriaeth.
Mae'n wyneb cyfarwydd ar lwyfannau'r Urdd, yr Eisteddfod Genedlaethol a'r Ŵyl Gerdd Dant.
Meddai Huw "Tri chynnig i Gymro maen nhw yn ei ddweud, ond mi wnes i lwyddo i'w gwneud hi mewn dau heno gan mai dyma oedd yr ail waith i mi gystadlu!" meddai. "Roedd yn brofiad ffantastig perfformio, ac roedd pawb yn fwy na theilwng o'r wobr, felly mi ges i dipyn o sioc pan wnaethon nhw gyhoeddi fy enw i. "Mi ydw i am gadw'r arian, a disgwyl i weld sut mae'r llais yn datblygu ac yna mewn blynyddoedd i ddod ar ôl iddo setlo, gobeithio y gallaf i fynd i astudio'r llais ymhellach."
Canmolwyd safon y gystadleuaeth ac mi oedd rhinweddau ardderchog yn perthyn i'r chwe cystadleuydd.
Beth yw Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel?
Dyma Ysgoloriaeth gwerth £4,000 a roddir yn flynyddol i enillydd un o gystadlaethau unigol dan 25 oed Eisteddfod yr Urdd
Gwahoddir yr enillwyr i gystadlu am yr ysgoloriaeth mewn noson arbennig a gynhelir ar ffurf cyngerdd yn dilyn yr Eisteddfod. Ar y noson gofynnir i bob cystadleuydd berfformio rhaglen 12 munud o hyd a bydd panel o feirniaid arbenigol yn penderfynu pwy fydd yn derbyn yr Ysgoloriaeth. Nod yr Ysgoloriaeth yw meithrin talentau rhai o berfformwyr ifanc mwyaf blaenllaw Cymru a rhoi’r cyfle iddynt ddatblygu ymhellach yn eu maes. Cyn y gystadleuaeth bydd yr wyth cystadleuydd yn cael Dosbarthiadau Meistri gan arbenigwyr yn eu maes.
Cyn-enillwyr Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel
2012 Eryri - Huw Ynyr Evans
2011 Abertawe a'r Fro - Glain Dafydd
2010 Ceredigion - Elgan Llyr Thomas
2009 Bae Caerdydd - Catrin Angharad Roberts
2008 Conwy - Rhian Lois Evans
2007 Sir Gâr - Manon Wyn Williams
2006 Sir Ddinbych - Rhys Taylor
2005 Canolfan Mileniwm Cymru - Lowri Walton
2004 Ynys Môn - Rakhi Singh
2003 Tawe Nedd ac Afan - Aled Pedrig
2002 Caerdydd - Rhian Mair Lewis
2001 Toriad oherwydd Clwy’r Traed a’r Genau
2000 Bro Conwy - Fflur Wyn
1999 Llanbedr Pont Steffan - Mirain Haf
Meddai Bryn Terfel:
"Mae’n bleser mawr gennyf fod yn gysylltiedig â’r Ysgoloriaeth hon gan wybod bod yr Urdd yn parhau i ffynnu ac ehangu a rhoi llwyfan i bobl ifanc Cymru feithrin a hyrwyddo eu doniau amrywiol drwy gyfrwng ystod eang o weithgareddau cyffrous ac arloesol.”



