Eisteddfod (WELSH)

  • Hafan
  • Beth yw’r Eisteddfod?
    • Y Maes
    • Disney
    • Cwestiynau Cyffredin
    • Archif
  • Eryri 2012
    • Tocynnau
    • Digwyddiadau Lleol
    • Y Maes
    • Stondinwyr/Arddangoswyr
    • Lle i Aros
    • GwyddonLe
    • Noddi
    • Pwyllgorau Lleol
    • Cefnogi
    • Sioeau/Oedfa/Cymanfa
    • Stiwardiaid
  • Cystadlu
    • Rhestr Testunau
    • Amserlen Llwyfan
    • Ffurflenni Cystadlu
    • Rheolau a Chanllawiau
    • CogUrdd
    • Eisteddfodau Cylch a Sir
    • Celf, Dylunio a Thechnoleg
    • Byw tu allan i Gymru?
    • Ysgoloriaeth Bryn Terfel
    • Canlyniadau
  • 2013
    • Pwyllgorau Lleol
    • Digwyddiadau Lleol
    • Cefnogi
    • Siop Nwyddau Lleol
    • Y Maes
    • Lle i Aros 2013
  • 2014
  • Theatr
    • Sut i wneud cais
    • Calendr Digwyddiadau
  • Newyddion
    • Blog
  • Cysylltwch
    • Manylion Cyswllt
  • urdd.org

  • English
  • Cymraeg



Ysgoloriaeth

Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel

ENILLYDD YSGOLORIAETH URDD GOBAITH CYMRU BRYN TERFEL 2011

Glain Dafydd

Nos Sul, Medi 25, 2011 fe gipiodd Glain Dafydd Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel 2011 mewn cyngerdd gwefreiddiol a gynhaliwyd yn Stiwdio’r Ddraig, Pencoed ger Pen-y-bont ar Ogwr.  Cyflwynwyd yr Ysgoloriaeth, gwerth £4,000 i Glain yn y cyngerdd oedd yn fyw ar S4C ac yn benllanw ar weithgareddau’r Ysgoloriaeth am eleni.

Daeth Glain (19), o Fangor ac sy’n gyn-ddisgybl yn Ysgolion y Garnedd a Tryfan a Chanolfan William Mathias  i’r brig wedi iddi swyno’r chwe beirniaid gyda’i dehongliad o Au Matin gan Touriner, La Source, Albert Zabel ac Impromptu gan Reinhold Gilère. Fel rhan o weithgarddau’r Ysgoloriaeth cafodd ddosbarth meistr gan y telynor Ieuan Jones.

Mae Glain wedi hen arfer perfformio a chystadlu, yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Mae eisoes wedi ennill Tlws y Telynor, Ysgoloriaeth Simms yr Urdd a’r Rhuban Glas Offerynnol yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau’r Cymoedd 2010. Yn yr un flwyddyn bu’n agos i’r brig yng nghystadleuaeth BBC Young Musician a’r Royal Overseas League. Mae hi bellach yn astudio ym Mhrifysgol Normale de Musique de Paris o dan hyfforddiant Isabelle Perrin. Yn ddiweddar ymddangosodd Glain fel aelod  o Gerddorfa Ieuenctid Prydain yn y Proms yn Neuadd Albert.

Meddai  ““Mae ennill Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel yn gyrhaeddiad allweddol i mi yn fy ngyrfa hyd yma, heb os. Mae wedi bod yn fraint cael cymryd rhan mewn cystadleuaeth sy’n cael ei chefnogi gan Bryn Terfel ac sy’n cael ei chydnabod fel un o ysgoloriaethau mwyaf blaenllaw Cymru. Mae bod yn rhan ohoni’n adlewyrchu’r safonau cerddorol yr wyf fi’n anelu atyn nhw fel telynores ac mae’n bwysig am ddau reswm penodol: y naill yn ymarferol, sef y gefnogaeth ariannol, a’r llall yn fodd o godi proffil fel perfformwraig – mae hynny’n amhrisiadwy. Hoffwn gydnabod y cyfraniad y mae’r Urdd wedi’i wneud i mi fel perfformiwr dros nifer o flynyddoedd ac sy’n cyrraedd penllanw drwy’r gystadleuaeth arbennig hon.”

Meddai Aled Siôn Cyfarwyddwr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, “Eto eleni, mae cystadleuaeth yr Ysgoloriaeth wedi creu cynnwrf a chyffro heb ei ail a’r cyngerdd yn binacl gwych i’r holl weithgareddau. Bu i’r wyth cystadleuydd roi o’u gorau a llongyfarchiadau gwresog iawn i Glain. Edrychwn ymlaen at ddilyn ei gyrfa yn y dyfodol. 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Beth yw Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel?

Dyma Ysgoloriaeth gwerth £4,000 a roddir yn flynyddol i enillydd un o gystadlaethau unigol dan 25 oed Eisteddfod yr Urdd

Gwahoddir yr enillwyr i gystadlu am yr ysgoloriaeth mewn noson arbennig a gynhelir ar ffurf cyngerdd yn dilyn yr Eisteddfod. Ar y noson gofynnir i bob cystadleuydd berfformio rhaglen 12 munud o hyd a bydd panel o feirniaid arbenigol yn penderfynu pwy fydd yn derbyn yr Ysgoloriaeth. Nod yr Ysgoloriaeth yw meithrin talentau rhai o berfformwyr ifanc mwyaf blaenllaw Cymru a rhoi’r cyfle iddynt ddatblygu ymhellach yn eu maes. Cyn y gystadleuaeth bydd yr wyth cystadleuydd yn cael Dosbarthiadau Meistri gan arbenigwyr yn eu maes.

 

 

Cyn-enillwyr Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel

2011 Abertawe a'r Fro - Glain Dafydd
2010 Ceredigion - Elgan Llyr Thomas
2009 Bae Caerdydd - Catrin Angharad Roberts
2008 Conwy - Rhian Lois Evans
2007 Sir Gâr - Manon Wyn Williams
2006 Sir Ddinbych - Rhys Taylor
2005 Canolfan Mileniwm Cymru - Lowri Walton
2004 Ynys Môn - Rakhi Singh
2003 Tawe Nedd ac Afan - Aled Pedrig
2002 Caerdydd - Rhian Mair Lewis
2001 Toriad oherwydd Clwy’r Traed a’r Genau
2000 Bro Conwy - Fflur Wyn
1999 Llanbedr Pont Steffan - Mirain Haf

 

Meddai Bryn Terfel:

"Mae’n bleser mawr gennyf fod yn gysylltiedig â’r Ysgoloriaeth hon gan wybod bod yr Urdd yn parhau i ffynnu ac ehangu a rhoi llwyfan i bobl ifanc Cymru feithrin a hyrwyddo eu doniau amrywiol drwy gyfrwng ystod eang o weithgareddau cyffrous ac arloesol.”

  

Grwpiau:
  • Eisteddfod

Copyright © 2012, urdd.org.All rights reserved
Design elfen.co.uk