Y Maes
Lleoliad Eisteddfod yr Urdd Sir Benfro 2013 yw ar fferm Cilwendeg ger Boncath. Dyma oedd lleoliad maes Eisteddfod yr Urdd nol yn 1995, ac mae'n anodd credu bod hynny ddeunaw mlynedd yn ol! - Edrychwn ymlaen i gael dychwelyd yno rhwng 27 Mai a 1 Mehefin.
Sut i gyrraedd y Maes
Gyda char:
Lleolir Eisteddfod yr Urdd 2013 ar gaeau Cilwendeg ar y B4332 rhwng Boncath a Chenarth. Bydd arwyddion melyn ar holl brif ffyrdd i’r Maes ond dyma grynodeb i’ch cynorthwyo efo’ch trefniadau teithio.
O’r de a’r dwyrain: dilynwch y A484 o Gaerfyrddin i Gastell Newydd Emlyn a throi i’r chwith yng Nghenarth gan gymryd y B4332 tuag at Boncath a’r Maes.
O’r canolbarth a’r gogledd: dilynwch y A487 drwy Geredigion i Aberteifi, ac ar ôl croesi’r afon ar y ffordd osgoi trowch i’r chwith oddi ar y gylchfan tuag at Dinbych y Pysgod ar yr A478. Mewn 4.5 milltir trowch i’r chwith ar y B4332 am Boncath
O ardaloedd de Sir Benfro a San Clêr: dilynwch yr A40 hyd at gylchfan Penblewin ger Arberth, yna trowch i’r A478 tuag at Aberteifi. Trowch i’r dde am Boncath ar y B4332 wedi tua 15 milltir

Gwasanaeth Bws
Mae gwasanaeth bws arbennig yn cael ei rhedeg gan gwmni Y Brodyr Richards yn ystod wythnos yr Eisteddfod.
Gweler yr amserlen isod neu lawrlwythwch yr amserlen drwy glicio YMA
Codir tâl bychan gan gwmni Brodyr Richards ar deithwyr sy’n defnyddio’r gwasanaeth hwn.


Defnyddio beic i gyrraedd y Maes
Darperier adnoddau pwrpasol i glymu beics wrth y Ganolfan Groeso.
Atyniadau'r Maes
O'r ffair i'r arddangosfeydd celf, dylunio a thechnoleg.... o'r wal ddringo i'r cyber caff... ac o'r stondinau niferus yn gwerthu crefft o Gymru i'r sioeau cerdd ysblennydd - MAE YMA RYWBETH AT DDANT PAWB AR FAES YR EISTEDDFOD!
Cyhoeddir amserlen lawn o weithgareddau'r maes yn fuan!
- Hyd at 200 o stondinau yn hyrwyddo gwasanaethau, cynnyrch a chelf o Gymru
- Pentre Mistar Urdd gydag adloniant i blant o bob oed, a siop i brynu nwyddau'r Urdd
- Gweithgareddau'r Gwersylloedd - yn cynnwys y Wal Ddringo, Saethyddiaeth a Beiciau Cwad
- Chwaraeon di-ri
- Arddangosfa o waith Celf, Dylunio a Thechnoleg buddugol
- Cwtsh Cymraeg - arddangosfa o waith llenyddol buddugol, a gweithdai llenyddol
- Llwyfan Berfformio gyda bandiau byw bob dydd
- Criw podledu'r Urdd yn darlledu'n ddyddiol o'r Carafan Podledu
- GwyddonLe yn llawn gweithgareddau rhyngweithiol i Eisteddfodwyr chwilfrydig
- Ffair wych
- Tren bach y Maes
- Caffi'r Wé
- Dewis eang o fwyd a diod at ddant pawb



