Stondinwyr/Arddangoswyr

Gydag oddeutu 100,000 o ymwelwyr i Faes yr Eisteddfod bob blwyddyn, mae Maes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn safle gwych i farchnata eich cynnyrch neu wasanaethau.
Cliciwch yma i lawrlwytho Pecyn Unedwyr i archebu stondin ar y Maes
Cliciwch yma i ddarllen mwy am y Cynnig Newydd ar gyfer 2012: Safle Arddangos - pris gostyngol
Mae oddeutu 200 o stondinau ac arddangosfeydd ar hyd a lled y Maes. Dyma ddetholiad o'u sylwadau a ymddangosod mewn erthygl ar Golwg 360.com wedi Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Ceredigion 2010
"Dyma'r 'Steddfod ore erioed! Mae gwerthiant wedi bod yn wych ac mae mewn mas neis iawn"
- Owain, Shwl-di-mwl
"Hapus iawn gyda'r Eisteddfod. Mae'n rhywbeth i'w ystyried ar gyfer fy nghalendr digwyddiadau. Mae lot o bobl yn dweud fod 'dillad steddfod' 'da ni"
- Rhian Dafydd, Ji-Binc
"Mae wedi bod yn lyfli. Mae'r tywyd wedi bod yn braf a phawb yn hapus. Dim ond 10 metr y mae'n rhaid i mi gerdded o'r Maes Carafanau i'r 'Steddfod. Ffab!"
- Gwennan Henstock, Fy Mabi
Os oes gennych ddiddordeb mewn arddangos neu werthu ar Faes Eisteddfod yr Urdd, cysylltwch â Ian Carter, Rheolwr Busnes a Maes - ianc@urdd.org



