Sir Benfro 2013
Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yw un o ŵyliau celfyddydol ieuenctid mwyaf Ewrop ac yn 2013 bydd yn ymweld â Sir Benfro
Yn ddigwyddiad i’r teulu’n gyfan mae’r Eisteddfod yn ddathliad o’r iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig yn ogystal â llwyfan ardderchog i arddangos y cyfoeth o dalent ifanc sydd yng Nghymru heddiw. Gyda chystadlaethau, llwyfannau cerddoriaeth byw, theatr stryd, arddangosfeydd a stondinau mae digon i ddiddannu pob oedran.
Arfordir Sir Benfro yw un o’r llefydd mwyaf poblogaidd yng Nghymru i fynd ar eich gwyliau. Ymhlith yr atyniadau mae tref Dinbych y Pysgod, Castell Cenarth, a pharc Oakwood. Am fwy o wybodaeth ewch i www.visitpembrokeshire.com
Gwyl Gyhoeddi Eisteddfod yr Urdd Sir Benfro 2013
Cynhelir gorymdaith Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Sir Benfro 2013, ac i estyn gwahoddiad cynnes i’ch ysgol i ymuno yn y gweithgareddau.
Dyma gyfle i bobl o bob cwr o’r sir, yn ddisgyblion ysgol, yn bobl ifanc, yn rhieni ac yn gefnogwyr yr Urdd o bob oed ddathlu’r ffaith fod Eisteddfod yr Urdd yn dod i Sir Benfro yn 2013! Hoffwn felly wahodd disgyblion yr Ysgol i ymuno â ni, mewn gorymdaith yn Hwlffordd ar yr 28ain o Ebrill 2012.
Amserlen y Dydd, a’r Orymdaith
- 10:30: Pawb i ymgynnull ar faes parcio Heol Dewi (Dew Street) tu ôl i’r Llyfrgell, lle oedd yr hen bwll nofio.
(*Bydd stiwardiaid yno i gyfeirio unrhyw fysus mini i le parcio priodol, ac i hebrwng plant a phobl ifanc yn ddiogel i’r man ymgynnull ar gyfer cychwyn yr Orymdaith. Bydd modd i geir ollwng plant hefyd, a bydd parcio cyfyngedig ar gael i geir yn Heol Dewi*). - 11:00: Yr orymdaith yn cychwyn o’r maes parcio gan ddilyn llwybr penodedig i lawr yr Heol Fawr yn Hwlffordd, dros y bont ac i mewn i faes parcio Neuadd y Sir. (Bydd yr heol wedi ei chau i drafnidiaeth)
- 12:00: Yr Orymdaith yn cyrraedd, a’r gweithgareddau awyr agored yn Neuadd y Sir yn cychwyn
- 14:00: Adloniant yn dirwyn i ben yn Neuadd y Sir.
- 14:30: Gêm Bêl Droed yn stadiwm y dref ‘Bridge Meadows’ Y Pwyllgor Ieuenctid yn erbyn ‘Sêr Cymru’ - yn cynnwys Rhydian Bowen Phillips, ‘Max a Iolo’ - Pobol y Cwm, Gareth Delve, Alun Williams, Geraint Hardy, Trystan Ellis Morris a Rhys ap Trefor.
- Dylai unrhyw un sy’n mynd i gefnogi, wneud eu ffordd eu hunain yno. Pawb arall i ddychwelyd i’w ceir / bysus.
- 19:00: Cyngerdd Côr Meibion Hwlffordd, ac Enillwyr Lleol a Sirol yr Urdd - Ysgol Syr Thomas Picton, Hwlffordd
- Adloniant yn Neuadd y Sir:
- Gwenda Owen yn diddanu’r plant gyda chaneuon adnabyddus
- Einir Dafydd a Gareth Delve - Dau wyneb lleol, a dau o gyflwynwyr CYW ar S4C.
- SambaDoc - Band Samba lleol o Ddoc Penfro, Hanweddus, Jason Phillips a’r Band,
- Pedwarawd Sacsoffôn Ysgol y Preseli
- Presenoldeb cyflwynwyr STWNSH - Tudur Phillips ac Anni Llŷn
Dewch yn llu ar gyfer diwrnod llawn hwyl i bob oedran!



