RIMBOJAM AR GERDDED YN ERYRI
RIMBOJAM AR GERDDED YN ERYRI
Yr wythnos yma (7 – 11 Tachwedd) mae taith fawreddog o’r sioe gerdd boblogaidd i blant, Rimbojam yn ymweld ag ysgolion Eryri wrth i blant yr ardal droi eu golygon at Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym mis Mehefin y flwyddyn nesaf.
Mae’r sioe fyrlymus yn ymweld â naw canolfan ar hyd a lled Eryri fydd yn galluogi oddeutu 2,000 o blant ysgolion cynradd yr ardal i weld y sioe a bod yn rhan o fwrlwm paratoadol Eisteddfod yr Urdd. Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd rhwng 4 a 9 Mehefin 2012 ar dir Coleg Glynllifon, ger Caernarfon ac mae’r sioe wedi ei addasu i gyfleu gwybodaeth am yr Eisteddfod.
Mae’r actorion Mari Emlyn a Richard Owen yn ymweld â’r canolfannau canlynol dros yr wythnos, gyda disgyblion o’r ysgolion cynradd cyfagos yn dod yno i fwynhau’r sioe.
Ysgol Glan y Môr, Pwllheli; Ysgol Botwnnog; Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda; Ysgol Brynrefail, Llanrug; Ysgol Treferthyr, Cricieth; Ysgol Eifion Wyn, Porthmadog; Ysgol Tryfan, Bangor; Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon; Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes.
Brynhawn Mercher bydd oddeutu 200 o blant yn y gynulleidfa yn Ysgol Eifion Wyn, Porthmadog i fwynhau’r sioe fyrlymus.
Dywed Aled Siôn, Cyfarwyddwr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd: “Mae dyfodiad Eisteddfod yr Urdd bob amser yn destun dathlu ac mae gweld ymateb y plant i’r sioe ac i’r cymeriadau sy’n sôn am yr Eisteddfod yn dangos y brwdfrydedd sydd yma yn Eryri. Mae cerddoriaeth y sioe yn fyrlymus a hwyliog ac mae’n amlwg fod y plant yn mwynhau yn fawr.”
Diwedd
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Non Tudur ar 07976 003341 nontudur@urdd.org
- Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Eryri 2012 ar gaeau Coleg Glynllifon rhwng 4 a 9 Mehefin 2012
- Yn 2013 bydd yr ŵyl yn ymweld â Sir Benfro ac yn 2014 bydd ym Meirionnydd
- Urdd Gobaith Cymru yw prif fudiad ieuenctid Cymru.
- Mae’r Urdd yn cynnig cyfleoedd penigamp i blant a ieuenctid Cymru ers dros 80 mlynedd.
- Mae gan yr Urdd oddeutu 50,000 o aelodau rhwng 8 a 25 oed.
- Sefydlwyd yr Urdd er mwyn rhoi cyfle i blant a phobl ifanc Cymru fyw bywydau byrlymus trwy gyfrwng y Gymraeg a magu hyder a pharch tuag at ei gilydd a phobl eraill yn y byd.
- Mae gweithgareddau’r Urdd yn cynnwys teithiau, chwaraeon, eisteddfod, cylchgronau, adrannau ac aelwydydd a gwersylloedd.




