MAGNOX I GEFNOGI CWTSH CYMRAEG EISTEDDFOD YR URDD, ERYRI 2012
MAGNOX I GEFNOGI CWTSH CYMRAEG EISTEDDFOD YR URDD, ERYRI 2012
Heddiw (Llun, 26 Mawrth 2012) mae Urdd Gobaith Cymru yn cyhoeddi manylion un o brif bartneriaid Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Eryri a gynhelir ym mis Mehefin eleni. Mae Magnox Cyf, Contractwr Rheoli a Gweithredu safleoedd Niwclear Trawsfynydd a Wylfa wedi datgan cefnogaeth gref i’r ŵyl a gynhelir ar dir Coleg Glynllifon rhwng 4 a 9 Mehefin eleni.
Fe fydd Magnox yn noddi'r pafiliwn llenyddiaeth a dysgwyr Cymraeg ar y Maes yn ogystal â holl ddigwyddiadau dydd Mawrth (5 Mehefin) yr Eisteddfod. Mae’r pafiliwn a elwid Y Cwtsh Cymraeg yn ganolbwynt i ddigwyddiadau llenyddol a ieithyddol ac mae’r amserlen yn llawn o weithdai, sesiynau cwestiwn ac ateb gyda rhai o awduron mwyaf blaenllaw Cymru a sgwadiau ‘sgwennu wedi eu hanelu at blant a phobl ifanc o bob oed.
“Mae’n bleser gennyf gyhoeddi y bydd Magnox yn un o brif noddwyr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni,” medd Aled Siôn, Cyfarwyddwr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. “Mae’r Cwtsh Cymraeg yn weddol newydd i’r Maes ond mae eisoes wedi cael enw da am fod yn le sy’n darparu rhaglen lawn, wahanol ac yn bwysicach na dim hwyliog i ddenu plant a phobl ifanc. Bydd cefnogaeth Magnox yn ein galluogi i fanteisio ar y llwyddiant diweddar a darparu platfform ehangach hyd yn oed i blant a phobl ifanc gael cyfarfod a chael eu hysbrydoli gan rai o awduron a beirdd mwyaf blaenllaw Cymru.
“Mae nawdd a chefnogaeth gan gwmnïau a sefydliadau lleol yn rhan annatod o lwyddiant Eisteddfod yr Urdd. Mae eu cefnogaeth yn fodd i’r Urdd gynnig ystod eang o gyfleoedd i blant a phobl ifanc lleol gael cymryd rhan a chymryd mantais o’r ŵyl unigryw yma er mwyn magu sgiliau newydd. Yn syml iawn ni fyddai’r Eisteddfod yn gallu cynnig hanner y cyfleoedd gwych yma heb eu cymorth parod ac rydym yn ddiolchgar iawn i Magnox am eu nawdd,” ategodd.
Dywedodd Dave Wilson, Cyfarwyddwr safle Trawsfynydd: “ Mae’r bartneriaeth rhwng Eisteddfod yr Urdd a Magnox yn adeiladu ar hanes hir y cwmni yng Ngogledd Cymru o gefnogi cymunedau a helpu pobl leol ddysgu sgiliau a manteisio ar gyfleoedd newydd. Mae’r arian nawdd i gefnogi’r Eisteddfod wedi dod o gynllun sosio-economaidd newydd Magnox sydd yn cael ei ariannu a’i gefnogi gan yr Awdurdod Dadgomisynu Niwclear ac EnergySolutions mewn partneriaeth â Magnox Cyfyngedig.
“Mae Eisteddfod yr Urdd yn blatfform i blant a phobl ifanc dyfu mewn hyder yn ogystal ag ennill sgiliau newydd ac rydym yn falch iawn o fod yn rhan o ddigwyddiad cymunedol mor gyffrous.”




