Eisteddfod (WELSH)

  • Hafan
  • Beth yw’r Eisteddfod?
    • Y Maes
    • Disney
    • Cwestiynau Cyffredin
    • Archif
  • Cystadlu
    • Rhestr Testunau
    • Tabl Rhagbrofion
    • Ffurflenni Cystadlu
    • Rheolau a Chanllawiau
    • CogUrdd
    • Eisteddfodau Cylch a Sir
    • Celf, Dylunio a Thechnoleg
    • Byw tu allan i Gymru?
    • Ysgoloriaeth Bryn Terfel
    • Cystadleuaeth addasu sgript
    • Canlyniadau 2013
    • Ysgoloriaeth Geraint George
  • 2013
    • Stondinwyr/Arddangoswyr
    • GwyddonLe
    • Noddi
    • Ap Urdd
    • Stiwardiaid
    • Pwyllgorau Lleol
    • Digwyddiadau Lleol
    • Cefnogi
    • Siop Nwyddau Lleol
    • Y Maes
    • Lle i Aros 2013
    • Taith Gerdded Sir Benfro
    • Barn am yr Eisteddfod?
    • Tocynnau Maes a Sioeau Nos
  • 2014
    • Cefnogi
    • Siop Nwyddau Lleol 2014
    • Digwyddiadau Lleol
    • Gwyl Cyhoeddi 2014
    • Lle i Aros 2014
    • Pwyllgorau Lleol
  • 2015
    • Cefnogi
    • Digwyddiadau Lleol
    • Lle i Aros 2015
    • Pwyllgorau Lleol 2015
  • Theatr
  • Newyddion
    • Blog
  • Cysylltwch
    • Manylion Cyswllt
  • urdd.org

Ap Eisteddfod 2013

Sut i gyrraedd y Maes

  • Cymraeg



Gwledd wrth agor Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Eryri

Gwledd wrth agor Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Eryri

 

Bydd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Eryri 2012 yn cynnig gwledd gerddorol i’r glust ac i’r llygad  mewn cyngerdd llawn sêr talentog nos Sul, 3 o Fehefin 2012 am 8 o’r gloch ym Mhafiliwn yr Ŵyl yng Nglynllifon ger Caernarfon.  Rhys Meirion, Calan, Tudur Owen, Côr Glanaethwy, Owen Arwyn a Bandana fydd rhai o’r artistiaid fydd yn perfformio i ddathlu’r ŵyl ieuenctid ddiwylliannol yn harddwch ardal Eryri. Trefnir y cyfan mewn cydweithrediad ag S4C. 

 

“Rydyn ni’n hynod ffodus o ddenu rhai o dalentau artistig mwyaf Cymru,” meddai Aled Siôn, Cyfarwyddwr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.  “Ar ben hynny, mae artistiaid ifanc sydd wedi eu meithrin a’u magu dan faner yr Urdd, fel enillydd Ysgoloriaeth Bryn Terfel, Glain Dafydd sy’n hanu o Fangor ac sy’n prysur wneud enw iddi ei hun fel telynores amryddawn.  Bydd hi hefyd yn braf croesawu cyn enillwyr ychydig aeddfetach, sy’n ffurfio pedwarawd yn arbennig ar ein cyfer.  Y brawd a’r chwaer o Hendre Cennin, y tenor, John Eifion a’r soprano Helen Medi, gyda’r milfeddyg amryddawn sy’n wreiddiol o’r Groeslon, y bariton, Iwan Wyn Parry a’r talentog, Siân Eirian sy’n byw tafliad carreg o’r maes. 

 

“Mae hi’n fraint dod i ardal sy’n cynnig cymaint o dalent a thraddodiad diwylliannol, a’n gobaith fel trefnwyr, yw y bydd y gynulleidfa’n mwynhau’r arlwy fydd o’i blaen ac yn cael dechrau gwych i wythnos llawn bwrlwm ar faes yr Eisteddfod.” 

 

Bydd diddanwch  hefyd ar y noson gan gerddorion ifanc talentog Bangor, Band Jazz Ysgol Tryfan gyda chriw dawnus o’r ddinas, Cwmni Dawns Bangor hefyd yn swyno’r dorf.  Bydd côr o aelwydydd yr ardal hefyd ar y llwyfan yn ei morio hi yn ogystal â chast y sioe ysgolion cynradd ‘Ar Gof a Chadw!’ a’r sioe ieuenctid ‘Sbri!’.  Mae’r grŵp lleol talentog Bandana hefyd yn rhan o’r arlwy.

 

Un grŵp sy’n edrych ymlaen yn arw at ymuno â’r sêr ar y llwyfan yw’r band gwerin bywiog, Calan.  Mae’r criw ifanc yn gwneud eu marc yn y byd cerddorol gan wthio’r ffiniau o ran delwedd a sain cerddoriaeth draddodiadol werinol Gymreig.  Mae pum aelod i’r band, Patrick Rimes, Angharad Siân Jenkins, Bethan Rhiannon, Alaw Ebrill Jones a Llinos Eleri Jones gydag un neu ddau o offerynwyr eraill yn ymuno â nhw yn ôl y galw.  Mae’r band wedi teithio ledled Prydain ac Ewrop yn perfformio ers ei sefydlu nôl yn 2005 ac wedi derbyn clod am eu hail gryno ddisg, ‘Jonah’ a ryddhawyd llynedd ar label Sain. 

 

Mae’r criw yn adeiladu ar lwyddiant eu halbwm gyntaf, Bling, a dderbyniodd adolygiadau gwych gan y wasg Brydeinig.  Yn eu mysg, papur newydd The Daily Mirror a ganmolodd sain gwerin Calan ‘especially when played with the grace, daring and sheer joy this multi-instrumental five-piece bring to a winning selection of reels, jigs and hornpipes.’  

 

Heb os, bydd bwrlwm Calan ar lwyfan y brifwyl ieuenctid yn chwa o awyr iach, ac yn ôl y gantores a’r chwaraeydd acordion Bethan Rhiannon: “Rydyn ni fel band yn cyflwyno cerddoriaeth Gymreig i ail ddegawd yr unfed ganrif ar hugain sy’n gymysgedd o alawon traddodiadol a set o rai gwreiddiol. Mae yna archif anferth o gerddoriaeth draddodiadol Gymreig ar gael, ond does dim rheswm i beidio ychwanegu ato, i’w ddatblygu, a’i adnewyddu!”

                                          

Yn ôl Angharad Jenkins, aelod arall o’r band, mae hi’n fraint cael gwahoddiad i berfformio yng Nghyngerdd Agoriadol yr Urdd: “Mi rydyn ni gyd wedi bod yn aelodau o’r Urdd dros y blynyddoedd, ac i mi’n bersonol a fagwyd yng nghanol bwrlwm y mudiad yn Abertawe, mae hi’n anrhydedd fawr cael perfformio am i mi dreulio cyfnod yn gweithio i’r Urdd.  Ein gobaith yw ehangu apêl cerddoraieth werin i’r to iau, ac arddangos y genre fel ffurf gerddorol flaengar a bywiog.”

 

Am docynnau i’r Cyngerdd sydd ar werth am £12 a £15, ewch i wefan yr Urdd, www.ordd.org/eisteddfod neu galwch 0845 257 1639.

 

Cynhelir yr Eisteddfod eleni ar dir Coleg Meirion Dwyfor yng Nglynllifon (Ffordd Clynnog, Glynllifon) ger Caernarfon, Gwynedd o’r 4 i’r 9 o Fehefin 2012.

 

Diwedd

 

Cyswllt: Ffion Clwyd 01745 550123 / 07702 048184 / ffion@pi-ar.co.uk

 

Nodiadau i Olygyddion

  • Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Eryri 2012 ar gaeau Coleg Glynllifon rhwng 4 a 9 Mehefin 2012
  • Yn 2013 bydd yr ŵyl yn ymweld â Sir Benfro ac yn 2014 bydd ym Meirionnydd
  • Urdd Gobaith Cymru yw prif fudiad ieuenctid Cymru.
  • Mae’r Urdd yn cynnig cyfleoedd penigamp i blant a ieuenctid Cymru ers 90 mlynedd.
  • Mae gan yr Urdd oddeutu 50,000 o aelodau rhwng 8 a 25 oed.
  • Sefydlwyd yr Urdd er mwyn rhoi cyfle i blant a phobl ifanc Cymru fyw bywydau byrlymus trwy gyfrwng y Gymraeg a magu hyder a pharch tuag at ei gilydd a phobl eraill yn y byd.
  • Mae gweithgareddau’r Urdd yn cynnwys teithiau, chwaraeon, eisteddfod, cylchgronau, adrannau ac aelwydydd a gwersylloedd.
Grwpiau:
  • Eisteddfod

Copyright © 2012, urdd.org.All rights reserved
Design elfen.co.uk