NEWYDDION
MAGNOX I GEFNOGI CWTSH CYMRAEG EISTEDDFOD YR URDD, ERYRI 2012
MAGNOX I GEFNOGI CWTSH CYMRAEG EISTEDDFOD YR URDD, ERYRI 2012
Heddiw (Llun, 26 Mawrth 2012) mae Urdd Gobaith Cymru yn cyhoeddi manylion un o brif bartneriaid Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Eryri a gynhelir ym mis Mehefin eleni. Mae Magnox Cyf, Contractwr Rheoli a Gweithredu safleoedd Niwclear Trawsfynydd a Wylfa wedi datgan cefnogaeth gref i’r ŵyl a gynhelir ar dir Coleg Glynllifon rhwng 4 a 9 Mehefin eleni.
CYMRU, LLOEGR A BAHRAIN - EISTEDDFOD YR URDD YN LLUNDAIN
CYMRU, LLOEGR A BAHRAIN - EISTEDDFOD YR URDD YN LLUNDAIN
Am y tro cyntaf erioed, fe gynhelir Eisteddfod Ranbarth Urdd Gobaith Cymru yn Llundain ddydd Sadwrn (17 Mawrth 2012). Cynhelir yr Eisteddfod yng Nghapel Jewin, yn ardal Barbican o Lundain a disgwylir dros 200 o gystadleuwyr o bob rhan o Loegr a thu hwnt, gan y bydd rhai cystadleuwyr yn ymuno â’r Eisteddfod o Bahrain drwy gysylltiad Skype.
Y darlledwr, Huw Edwards fydd yn agor yr Eisteddfod yn swyddogol am 10 y bore cyn i’r cystadlu mewn 35 o gystadlaethau fynd rhagddynt.
CYCHWYN EISTEDDFODAU CYLCH YN NODI CAN NIWRNOD TAN EISTEDDFOD GENEDLAETHOL YR URDD, ERYRI
CYCHWYN EISTEDDFODAU CYLCH YN NODI CAN NIWRNOD TAN
EISTEDDFOD GENEDLAETHOL YR URDD, ERYRI
Gyda 100 niwrnod i fynd tan Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Eryri yng Nglynllifon, ger Caernarfon, mae Eisteddfodau Cylch Cymru yn cychwyn heddiw ( Sadwrn, 25 Chwefror) gyda dros 35,000 o blant a phobl ifanc gychwyn ar y daith i’r Eisteddfod Genedlaethol.
EISTEDDFOD I AELODAU’R URDD SY’N BYW TU ALLAN I GYMRU I’W CHYNNAL YN LLUNDAIN YN 2012
EISTEDDFOD I AELODAU’R URDD SY’N BYW TU ALLAN I GYMRU I’W CHYNNAL YN LLUNDAIN YN 2012
Fe fydd Urdd Gobaith Cymru yn cynnal un o’i Eisteddfodau Rhanbarth y tu allan i Gymru'r flwyddyn nesaf.
RIMBOJAM AR GERDDED YN ERYRI
RIMBOJAM AR GERDDED YN ERYRI
Yr wythnos yma (7 – 11 Tachwedd) mae taith fawreddog o’r sioe gerdd boblogaidd i blant, Rimbojam yn ymweld ag ysgolion Eryri wrth i blant yr ardal droi eu golygon at Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym mis Mehefin y flwyddyn nesaf.
CWMNÏAU ERYRI I GROESAWU EISTEDDFOD YR URDD 2012
CWMNÏAU ERYRI I GROESAWU EISTEDDFOD YR URDD 2012
Gyda dyfodiad Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd i Eryri yn 2012, nid plant a phobl ifanc yr ardal yn unig fydd yn elwa ar y profiad o groesawu’r ŵyl i’r fro. Fore Mercher, 2il o Dachwedd am 8 bydd dros 50 o gynrychiolwyr busnesau bach, canolig a mawr Eryri yn dod ynghyd yn y Ganolfan Reolaeth ym Mhrifysgol Bangor i ddysgu mwy am sut y gallant hwy elwa ar ymweliad yr Eisteddfod i’r ardal yn ogystal â’r budd economaidd a ddaw yn sgil gŵyl o’r fath.
ENILLYDD YSGOLORIAETH URDD GOBAITH CYMRU BRYN TERFEL 2011
ENILLYDD YSGOLORIAETH URDD GOBAITH CYMRU
BRYN TERFEL 2011
Heno (Sul, Medi 25 2011) fe gipiodd Glain Dafydd Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel 2011 mewn cyngerdd gwefreiddiol a gynhaliwyd yn Stiwdio’r Ddraig, Pencoed ger Pen-y-bont ar Ogwr. Cyflwynwyd yr Ysgoloriaeth, gwerth £4,000 i Glain yn y cyngerdd oedd yn fyw ar S4C ac yn benllanw ar weithgareddau’r Ysgoloriaeth am eleni.
CÔR O GAERDYDD YN CAEL DOSBARTH MEISTR CERDDORIAETH A DAWNS CYN CYCHWYN AM YR O2
DYDDIAD: Iau, 22ain Medi 2011
AMSER: 2 y prynhawn
LLEOLIAD: Gwersyll yr Urdd, Canolfan y Mileniwm, Caerdydd
DIGWYDDIAD: Côr Aelwyd y Waun Ddyfal Choir yn derbyn hyfforddiant gan un o brif Gyfarwyddwyr Artistig Prydain, Karen Gillingham (o raglen Channel 4 Operatunity), Coreograffydd Natasha Khamjani a’r Cyfarwyddwr Cerdd, Hannah Conway cyn iddynt berfformio yn Arena O2, Llundain i lansio WorldSkills London 2011.
- 1 o 8
- >>



