Meirionnydd 2014
Dyddiadau'r Eisteddfod:
26 - 31 Mai 2014
.
.
.
'TRA MÔR, TRA MEIRION'
Yn dilyn ysbaid o 20 mlynedd daw Eisteddfod yr Urdd yn ol i Feirionnydd!
Os hoffech chi gyfrannu neu fod yn rhan o fwrlwm Eisteddfod yr Urdd Meirionnydd yna mae croeso i chi gysylltu â Ruth@urdd.org am ragor o wybodaeth.
Cyhoeddi lleoliad maes yr Eisteddfod: Y Bala
Caeau Rhiwlas ger Y Bala fydd cartref Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd pan fydd hi yn ymweld â Meirionnydd yn 2014.
Straeon Perthnasol
Yn ystod y broses ymgynghori, gychwynnodd nôl yn nechrau 2012, estynnwyd gwahoddiad i drigolion Meirionnydd gynnig lleoliadau posibl ac o ganlyniad fe ymwelwyd gyda naw safle ym mhob cwr o’r sir.
Yn dilyn yr ymweliadau cychwynnol, crëwyd rhestr fer o dri safle – yn Nhywyn, Harlech a’r Bala. Cynhaliwyd proses o gasglu barn gan sefydliadau a deiliaid diddordeb allanol, ac o ganlyniad penderfynodd Pwyllgor Technegol Canolog yr Eisteddfod mai’r Bala oedd y lleoliad mwyaf addas.
Yn ôl Aled Sion, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod,
“Er bod gan y tri safle ar y rhestr fer gryfderau a rhagoriaethau, roedd cryfderau amlwg yn Y Bala. Yn benodol, mae digon o dir da, addas ar y safle ac mae’n hygyrch o bob cyfeiriad. Mae’r safle hefyd wedi bod yn gartref i ddwy Eisteddfod Genedlaethol lwyddiannus, ddangosodd fod y systemau trafnidiaeth a pharcio yn gweithio yn dda iawn yn y lleoliad.
“Mae hefyd digon o dir gwastad yn y safle i leoli y Maes, Maes Carafanau a’r Meysydd Parcio ac mae’n agos at y dref.
“Hoffwn ddiolch i’r pwyllgorau lleol a’r asiantaethau allanol am eu mewnbwn i’r broses ymgynghori ac edrychwn ymlaen at Eisteddfod lwyddiannus ym Meirionydd yn 2014.”
Ychwanegodd Hedd Pugh, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith,
“Rydym yn gwerthfawrogi’n fawr bod cynifer o ardaloedd gwahanol ym Meirionnydd yn awyddus i groesawu’r Eisteddfod i’w bro ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio gyda phobl o bob ran o’r sir er mwyn sicrhau Eisteddfod fythgofiadwy ym Meirionnydd.”
Darllenwch erthygl Golwg360 yma
Darllennwch erthygl Newyddion BBC yma
Gwyl Gyhoeddi Eisteddfod Meirionnydd
Ar ddydd Sadwrn 27 Ebrill 2013 cynhelir gwyl gyhoeddi Eisteddfod yr Urdd Meirionnydd 2014 ym Mlaenau Ffestiniog. mae mwy o fanylion i'w gael drwy glicio'r ddolen yma: http://www.urdd.org/eisteddfod/gwyl-cyhoeddi-2014
Eisteddfodau'r Gorffennol
Oes ganddo'ch chi atogofion o Eisteddfodau yr Urdd ym Meirionnydd o'r gorffennol?
- 1936 (Blaenau Ffestiniog)
- 1954 (Y Bala)
- 1960 (Dolgellau)
- 1972 (Y Bala)
- 1994 (Dolgellau)
E-bostiwch ruth@urdd.org!




