Maes 2012
Cynhelir Eisteddfod yr Urdd Eryri 2012 ar dir Coleg Meirion Dwyfor, Campws Glynllifon ger Caernarfon.
Sut i gyrraedd y Maes? Cliciwch Yma!
Amserlen Bysiau Arriva - Cliciwch Yma!
![]()
Atyniadau'r Maes
O'r ffair i'r arddangosfeydd celf, dylunio a thechnoleg.... o'r wal ddringo i'r cyber caff... ac o'r stondinau niferus yn gwerthu crefft o Gymru i'r sioeau cerdd ysblennydd - MAE YMA RYWBETH AT DDANT PAWB AR FAES YR EISTEDDFOD!
- Hyd at 200 o stondinau yn hyrwyddo gwasanaethau, cynnyrch a chelf o Gymru
- Pentre Mistar Urdd gydag adloniant i blant o bob oed, a siop i brynu nwyddau'r Urdd
- Gweithgareddau'r Gwersylloedd - yn cynnwys y Wal Ddringo, Saethyddiaeth a Beiciau Cwad
- Chwaraeon di-ri yn cynnwys golff ac athletau
- Arddangosfa o waith Celf, Dylunio a Thechnoleg buddugol
- Cwtsh Cymraeg - arddangosfa o waith llenyddol buddugol, a gweithdai llenyddol
- Llwyfan Berfformio gyda bandiau byw bob dydd
- Criw podledu'r Urdd yn darlledu'n ddyddiol o'r Carafan Podledu
- GwyddonLe yn llawn gweithgareddau rhyngweithiol i Eisteddfodwyr chwilfrydig
- Ffair wych
- Tren bach y Maes
- Caffi'r Wé
- Dewis eang o fwyd a diod at ddant pawb
Grwpiau:



