Maes 2012
Cynhelir Eisteddfod yr Urdd Eryri 2012 ar dir Coleg Meirion Dwyfor, Campws Glynllifon ger Caernarfon.
Sut i gyrraedd y Maes? Cliciwch Yma!
Ymwelwyr
Mae Eisteddfod Genedlaethol yn ddigwyddiad sy’n cael cryn sylw gyda’r cyfryngau. Darlledir yn fyw ar y teledu a radio a cheir adroddiadau a lluniau mewn amryw o bapurau newydd cenedlaethol a lleol ynghyd â bwletinau cyson ar newyddion teledu a radio. Mae ymwelwyr ag Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, wrth brynu tocyn/derbyn mynediad, yn cydnabod bod posibilrwydd y bydd eu delwedd yn cael eu recordio wrth grwydro’r Maes ac efallai eu defnyddio a’u darlledu mewn rhaglenni sy’n cael eu darlledu o’r Maes. Mae ffotograffwyr hefyd yn tynnu lluniau o amgylch y Maes ac mae posibilrwydd y bydd eich delwedd yn cael eu defnyddio.
Atyniadau'r Maes
O'r ffair i'r arddangosfeydd celf, dylunio a thechnoleg.... o'r wal ddringo i'r cyber caff... ac o'r stondinau niferus yn gwerthu crefft o Gymru i'r sioeau cerdd ysblennydd - MAE YMA RYWBETH AT DDANT PAWB AR FAES YR EISTEDDFOD!
- Hyd at 200 o stondinau yn hyrwyddo gwasanaethau, cynnyrch a chelf o Gymru
- Pentre Mistar Urdd gydag adloniant i blant o bob oed, a siop i brynu nwyddau'r Urdd
- Gweithgareddau'r Gwersylloedd - yn cynnwys y Wal Ddringo, Saethyddiaeth a Beiciau Cwad
- Chwaraeon di-ri
- Arddangosfa o waith Celf, Dylunio a Thechnoleg buddugol
- Cwtsh Cymraeg - arddangosfa o waith llenyddol buddugol, a gweithdai llenyddol
- Llwyfan Berfformio gyda bandiau byw bob dydd
- Criw podledu'r Urdd yn darlledu'n ddyddiol o'r Carafan Podledu
- GwyddonLe yn llawn gweithgareddau rhyngweithiol i Eisteddfodwyr chwilfrydig
- Ffair wych
- Tren bach y Maes
- Caffi'r Wé
- Dewis eang o fwyd a diod at ddant pawb



