
Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru yw prif ŵyl gelfyddydol ieuenctid Ewrop, ac mae hi'n cael ei chynnal mewn man gwahanol yng Nghymru bob blwyddyn. Eleni mae hi'n dod i caeau Fferm Gloddaeth Isaf ger Llandudno. Bydd y maes yn ferw o ddigwyddiadau i'r hen a’r ifanc gyda digon i’w weld ac i’w wneud heb sôn am raglen lawn o gystadlu brwd.

Gyda 15,000 o gystadleuwyr, 100,000 o ymwelwyr a miliwn o bobl yn gwylio ar y teledu, mae Eisteddfod yr Urdd yn ddigwyddiad o bwys i Gymru gyfan. Yn ogystal â’r cystadlaethau canu, llefaru, dawnsio ac offerynnol yn y pafiliwn, mae llwyth o weithgareddau ar y maes. O' r ffair i'r arddangosfeydd celf, dylunio a thechnoleg, ac o'r wal ddringo i'r cyber-caff a'r sioeau cerdd, mae yma rywbeth at ddant pawb. Dewch yn llu i fwynhau'r ŵyl!
Ni chaniateir anifeiliaid ar y maes ar wahân i gŵn y deillion.
Cysylltwch â Swyddfa’r Eisteddfod ar 0845 257 1613 am fwy o wybodaeth.
NODER: Mae trefn y tlysau yn newid. Am fwy o fanylion, cliciwch yma
Mae gwneud copiau ychwanegol eich hun o gerddoriaeth, barddoniaeth neu unrhyw waith sydd wedi ei gyhoeddi yn anghyfreithlon.