GwyddonLe

Hwyl Wyddonol
Prifwyl yr Urdd
Roedd darpariaeth gwyddoniaeth Prifysgol Abertawe i'w gweld ar ei gorau eto ym mhabell GwyddonLe 2012.
Cliciwch Yma i weld rhai lluniau o'r wythnos!
Y prif atyniad eleni oedd car Bloodhound - y cerbyd enwog sy'n gobeithio torri'r record byd ar gyfer cyflymder tir, a chyrraedd 1,000 milltir yr awr yn 2013.

Mae ymchwilwyr o Goleg Peirianneg Prifysgol Abertawe wedi cyfrannu at ddyluniad aerodynameg Bloodhound, ac roedd fideo yn olrhain hane sy cynllun i'w weld gydol yr wythnos hefyd.
Bu staff academaidd a myfyrwyr ol-raddedig o Adrannau Ffiseg, Biowyddorau, Mathemateg, Daearyddiaeth a Meddygaeth Prifysgol Abertawe yn darparu gweithgareddau hwyliog a rhyngweithiol bob dydd.
Bu Adrannau Cyfrifiadureg Prifysgolion Abertawe, Aberystwyth a Bangor hefyd yno i hyrwyddo cynllun Technocamps ac yn ceisio annog ymwelwyr i reoli robotiaid cyfrifiadurol ymysg pethau eraill.
Roedd hefyd lu o gyrff allanol yn arddangos eu gwaith yn y GwyddonLe, gan gynnwys Techniquest, Yr Ardd Fotaneg, Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Rheilffordd Llyn Padarn, First Hydro a Mad Science.
Cliciwch Yma am rhagor o luniau o'r wythnos!
Y naturiaethwr Iolo Williams agorodd y babell yn swyddogol fore Llun. I ddilyn, bu Iolo Williams yn cymryd rhan mewn sesiwn holi ag ateb gyda'r cyflwynydd teled a chyn-fyfyrwraig Prifysgol Abertawe, Nia Parry.

Bu'r cyn bel droediwr proffesiynol sydd wedi ennill amryw o gapiau dros Gymru, Malcol, Allen yn cyflwyno gwobrau'r cystadleuaeth fathemategol genedlaethol.

Hefyd dangoswyd ffilm unigryw, 'Glimpse: Yr Ia sy'n diflannu o'r Ynys Las' sy'n dilyn rhewlifegwyr o Brifysgol Abertawe ar eu taith wyddonol i ddarganfod pam fod ia yr Ynys Las yn newid.
Cliciwch Yma i weld rhai o fideos yr wythnos!
Cystadlaethau Dyddiol
Dyma enillwyr y cystadlaethau dyddiol yn Eryri 2012. Maent i gyd wedi ennill gwobrau gwyddonol Science Museum UK. Noddwyd y gwobrau hyn gan Lywodraeth Cymu.
Dydd Llun: Beth yw enw'r car sy'n gobeithio torri record byd a theithio cyflymder o 1,000 milltir yr awr dros dir?
Ateb: Bloodhound
Enillydd: William Icke, Ysgol Llanpumpsaint
Dydd Mawrth: Beth yw'r gair Cymraeg am ffrwydrad folcanig?
Ateb: Echdoriad
Enillydd: Mared Owen, Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun
Dydd Mercher: Beth yw'r anifail hynaf ar y ddaear?
Ateb: Arctica Islandia
Enillydd: Grug Ifan, Ysgol Pencae, Llandaf, Caerdydd
Dydd Iau: Beth yw enw'r hylif sy'n troi'n drwchus dan swn?
Ateb: Hylif aniwbonaidd
Enillydd: Meilyr Jones, Ysgol y Berwyn, Bala
Dydd Gwener: Beth yw maint ynys fwyaf y byd?
Ateb: 2,166,086 km sgwar
Enillydd: Jac Idan, Ysgol Parc y Bont, Llanddaniel
|
|
||
|
|




