Mae cwmni Edwards Coaches yn cynnig gostyngiad o 10% oddi ar bris arferol am benwythnos yn Disneyland® Resort Paris ar gyfer Gwyl Gynreig Dewi Sant 5ed i 7fed o Fawrth 2010.
Mae’r cyfle arbennig hwn yn siawns i chi a’ch ysgol, adran neu deulu fwynhau holl atyniadau parc Disney ym Mharis tra’n hefyd cefnogi 5 o enillwyr Eisteddfod yr Urdd - Bae Caerdydd a fydd yn perfformio yn y Parc ar ddydd Sadwrn yr Ŵyl.
Dros benwythnos y 5ed - 7fed o fis Mawrth, bydd Disneyland Resort Paris yn troi’n goch, gwyn a gwyrdd! Fe fyddwch yn cael cyfle i fwynhau hyd a lledrith Disney, y cymeriadau lliwgar a pharc adloniant mwyaf yn Ewrop. Hyn i gyd yn ogystal â cherddoriaeth a chrefftau, diwylliant a chwedlau di-ri. Cyfuniad gwych am benwythnos i’w gofio.
Mae cwmni Edwards Coaches yn Ne Cymru a Silver Staryng Ngogledd Cymru yn cynnig gostyngiad arbennig o 10% oddi ar y pris arferol am benwythnos yn Disneyland Resort Paris dros gyfnod y 5ed – 7fed o fis Mawrth 2010 i aelodau’r Urdd yn unig.
Fe fydd y 5 enillydd a’u teuluoedd yn teithio allan i Baris ar y bysus yma gan Edwards a Silver Star felly gallwch chi ymuno â nhw ar y bysus i fwynhau penwythnos penigamp!
Mae holl wybodaeth am yr opsiynau gwahanol o ran dewis o westai ac amserau gadael ar gael drwy gysylltu yn uniongyrchol â’r cwmnïau
Wrth gysylltu â’r cwmnïau, cofiwch sôn eich bod yn aelod o’r Urdd ac fe fyddant yn gallu cadarnhau'r prisiau a’r gostyngiad o 10% i chi.
Os hoffech mwy o fanylion am yr enillwyr sy’n teithio allan i Baris neu am y cynnig mae croeso i chi gysylltu â’r Urdd ar 029 20 635690 neu ar e-bost eisteddfod@urdd.org
Cliciwch yma i gael mwy o fanylion am beth sydd mlaen yn ystod Gŵyl Gymreig Dewi Sant