Eisteddfod Sut i Gyrraedd y Maes
Dyma fap o leoliad y Maes.

Gellir cael mapiau mwy manwl o'r ardal ar safle Multimap
O gyfeiriad Aberystwyth ar y A487
Dilynwch yr A487 at gyfeiriad Dolgellau. Wrth gyffordd T trowch i’r chwith ar y A470. dilynwch yr A470 am Betws-y-Coed ar ôl cyrraedd y gylchfan cymerwch yr 2il droad am A470 (Betws-y-Coed). Trowch i’r chwith ar y A5 (Betws-y-Coed). Trowch i’r dde ar yr A470 (Llandudno, Conwy A55) dilynwch y ffordd tan i chi gyrraedd cylchfan a chymerwch y troad cyntaf ar yr A470 (mae Shell Black Cat yma). Ar y gylchfan cymerwch y 3ydd troad (Llandudno).
Dilynwch y ffordd nes i chi gyrraedd y 3ydd cylchfan, ac yna cymerwch y 3ydd troad am Fae Penrhyn. Dilynwch y ffordd nes gweld Maes yr Eisteddfod ar y chwith.
O gyfeiriad Llanelwy ar yr A55
Ar y gylchfan cymerwch y troad cyntaf ar yr A55 (Conwy). Gadewch yr A55 ar gyffordd 19 (Llandudno, Betws-y-Coed). Ar y gylchfan cymerwch y 4ydd troad ar yr A470 (Llandudno), dilynwch y A470 nes i chi gyrraedd y 3ydd cylchfan, ac yna cymerwch y 3ydd troad am Fae Penrhyn. Dilynwch y ffordd nes gweld Maes yr Eisteddfod ar y chwith.
O gyfeiriad Caergybi ar yr A55
Wrth y goleuadau traffic ewch ar yr A55 (Bangor), ar y gylchfan cymerwch y troad 1af A55 (Bangor). Dilynnwch yr A55 (Conwy). Dewch i ffwrdd o’r A55 ar gyffordd 19 (Betws-y-Coed, Llandudno). Ar y gylchfan cymerwch yr 2il droad ar yr A470 (Llandudno). Dilynwch y A470 nes i chi gyrraedd y 3ydd ac yna cymerwch y 3ydd troad am Fae Penrhyn. Dilynwch y ffordd nes gweld Maes yr Eisteddfod ar y chwith.
O gyfeiriad Corwen ar yr A470
Dilynwch yr A5 nes i chi gyrraedd Betws-y-Coed. Yma trowch i’r dde ar yr A470 (Llandudno, Conwy A55) dilynwch y ffordd drwy tref Llanrwst nes i chi gyrraedd cylchfan, a chymerwch y troad cyntaf ar yr (mae Shell Black Cat yma). Ar y gylchfan cymerwch y 3ydd troad (Llandudno). Dilynwch y ffordd nes i chi gyrraedd y 3ydd cylchfan, ac yna cymerwch y 3ydd troad am Fae Penrhyn. Dilynwch y ffordd nes gweld Maes yr Eisteddfod ar y chwith.
Gwasanaeth Bws
- O dref Llandudno - Rhif 12 yn codi o Marks and Spencers bob 10 munud
- O orsaf tren Cyffordd Llandudno - Bws Rhif 14 neu 15 - 20munud wedi'r awr a 10 munud i'r awr.