Eisteddfod Maes Carafanau


carafannauMaes Carafannau Eisteddfod Urdd Gobaith Cymru Bae Caerdydd 2009
Mae Cyngor Urdd Gobaith Cymru wedi penderfynu peidio â pharatoi maes carafannau yn Eisteddfod yr Urdd Bae Caerdydd 2009. Hoffwn ymddiheuro am hynny, ond mae’r penderfyniad o ganlyniad i ffactorau ymarferol ac ariannol sy’n unigryw i’r Eisteddfod hon.

Oherwydd natur Bae Caerdydd a’r holl ddatblygiadau diweddar, nid oes gofod addas ar gael i greu maes carafannau. Nid oedd yr un safle a welwyd yn dderbyniol i’r Urdd nac yn dderbyniol chwaith yn ôl ein hymholiadau, i garafanwyr. Derbyniwyd sylwadau anffafriol gan amryw parthed safon a chyflwr maes carafannau 2005, ac felly wrth ystyried yr holl ffactorau nid yw’n ymarferol i ni gynnig y gwasanaeth hwn yn 2009.

Nid ar chwarae bach yr ydym wedi cymryd y cam hwn ac yr ydym yn llawn sylweddoli pwysigrwydd y gwasanaeth i eisteddfodwyr. Hoffwn eich sicrhau y bydd maes yn cael ei ddarparu ar eich cyfer yn Eisteddfod yr Urdd Ceredigion 2010, pan fyddwn yn dychwelyd i gynnal Eisteddfod draddodiadol ar dir bendigedig yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Llanerchaeron. Gobeithio y byddwch yn parhau i ymweld â’r Eisteddfod ym Mae Caerdydd ac y byddwn yn eich gweld unwaith eto ar faes carafannau Eisteddfod Ceredigion 2010.

Cliciwch yma am restr o feysydd carafannau yn ardal Caerdydd ynghyd â gwybodaeth bellach am lety cyffredinol yn ein prif ddinas.