CROESO I EISTEDDFOD YR URDD CEREDIGION!
Rhwng 31 Mai – 5 Mehefin 2010, caiff safle ysblennydd Llanerchaeron ei draw s newid i gynnal Eisteddfod yr Urdd, gwyl ieuenctid ddiwylliannol Cymru. Bydd hyd at 100,000 o ymwelwyr a 15,000 o gystadleuwyr yn rhan o fwrlwm yr wyl a chynulleidfa deilwng yn gwylio’r cyfan ar y teledu. Gyda goreuon ieuenctid Cymru yn cystadlu mewn cystadlaethau canu, llefaru, actio, drama, dawnsio, cyfansoddi, barddoni, celf a chrefft a llawer mwy, bydd digon o gyffro i’w weld a’i glywed yng Ngheredigion dros wythnos hanner tymor.
Cliciwch yma i weld taflen wybodaeth am yr Eisteddfod

Gellir gweld holl wybodaeth a chanlyniadau Eisteddfod Bae Caerdydd yn yr Archif