Cwestiynau Cyffredin
Dyma restr o'r cwestiynau sydd yn cael eu gofyn fwyaf aml. Cliciwch yma os hoffech ofyn cwestiwn arall.
Ym mhle mae'r Eisteddfod yn 2012?
Cynhelir yr Eisteddfod yn Eryri ar dir Coleg Meirion Dwyfor Glynllifon rhwng y 4ydd a'r 9fed o Fehefin.
Sut i gyrraedd y Maes? Cliciwch Yma!
Oes angen bod yn aelod o'r Urdd i gystadlu yn yr Eisteddfod?
Oes. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am ymuno efo'r Urdd
Pa fath o gyfleusterau sydd ar y maes ar gyfer pobl ag anabledd?
Gellir llogi cadair olwyn wrth y brif fynedfa, mae nifer o geirt modur ar gael i gludo pobl o gwmpas y Maes, ac fe geir rampiau wrth fynedfa pob stondin a phabell er hwylusdra.
A oes llefydd parcio ar gyfer pobl ag anabledd?
Oes, mae llefydd parcio arbennig a rheiny mor agos a phosibl at brif fynedfa'r Maes
A oes cymorth i gario offer trwm i'r Maes?
Mae cymorth ar gael i gario offer trwm ar y Maes trwy ofyn i stiward yn y Ganolfan Groeso
Oes angen tocyn gwahanol ar gyfer gweithgareddau'r dydd a gweithgareddau'r nos?
Oes, mae angen tocyn dydd i gael mynediad i'r Maes a thocyn gwahanol ar gyfer digwyddiadau'r nos megis cystadlaethau'r Gan Actol, cystadlaethau nos Iau a chystadlaethau'r cerddorfeydd
A yw'r rhagbrofion i gyd ar y Maes?
Mae'r rhagbrofion i gyd yn cael eu cynnal ar y Maes yn y gwahanol Stiwidios, Neuadd Ddawns a Neuadd Gorawl. Mae'r manylion i gyd yn Rhaglen y Dydd 2012
Ym mhle gallaf brynu Rhaglen y Dydd?
Gallwch ei brynu mewn siopau llyfrau neu drwy gysylltu efo swyddfa Glan-llyn ar 01678 541 014
Hoffwn brynu fflagiau coch, gwyn a gwyrdd i groesawu'r Eisteddfod i Eryri
Cysylltwch efo Swyddfa'r Urdd ym Mangor ar 01248 672100. Mae'r fflagiau yn £3.50 am 10 metr (1 pecyn), £15 am 50 metr (5 pecyn) a £28 am 100 metr (10 pecyn)



