Eisteddfod (WELSH)

  • Hafan
  • Beth yw’r Eisteddfod?
    • Y Maes
    • Disney
    • Cwestiynau Cyffredin
    • Archif
  • Cystadlu
    • Rhestr Testunau
    • Tabl Rhagbrofion
    • Ffurflenni Cystadlu
    • Rheolau a Chanllawiau
    • CogUrdd
    • Eisteddfodau Cylch a Sir
    • Celf, Dylunio a Thechnoleg
    • Byw tu allan i Gymru?
    • Ysgoloriaeth Bryn Terfel
    • Cystadleuaeth addasu sgript
    • Canlyniadau 2013
    • Ysgoloriaeth Geraint George
  • 2013
    • Stondinwyr/Arddangoswyr
    • GwyddonLe
    • Noddi
    • Ap Urdd
    • Stiwardiaid
    • Pwyllgorau Lleol
    • Digwyddiadau Lleol
    • Cefnogi
    • Siop Nwyddau Lleol
    • Y Maes
    • Lle i Aros 2013
    • Taith Gerdded Sir Benfro
    • Barn am yr Eisteddfod?
    • Tocynnau Maes a Sioeau Nos
  • 2014
    • Cefnogi
    • Siop Nwyddau Lleol 2014
    • Digwyddiadau Lleol
    • Gwyl Cyhoeddi 2014
    • Lle i Aros 2014
    • Pwyllgorau Lleol
  • 2015
    • Cefnogi
    • Digwyddiadau Lleol
    • Lle i Aros 2015
    • Pwyllgorau Lleol 2015
  • Theatr
  • Newyddion
    • Blog
  • Cysylltwch
    • Manylion Cyswllt
  • urdd.org

  • English
  • Cymraeg



Beth yw’r Eisteddfod?

Yn ystod y Sulgwyn, 27 Mai – 1 Mehefin, bydd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, un o wyliau teithiol mwyaf Ewrop sy’n denu tua 100,000 o ymwelwyr, yn cael ei chynnal ger pentref bach Boncath yn Sir Benfro. Mae dros 15,000 o blant a phobl ifanc yn cystadlu yn yr Eisteddfod bob blwyddyn mewn cystadlaethau megis canu, dawnsio a pherfformio.  Rhain yw’r gorau o tua 40,000 o gystadleuwyr ledled Cymru sydd wedi ennill eu lle yn y genedlaethol yn dilyn Eisteddfodau Cylch a Sir.

Canolbwynt yr Eisteddfod yw pafiliwn ble mae’r cystadlu yn digwydd.  Ond yn amgylchynu y pafiliwn mae tua 200 o stondinau lliwgar ac ystod o weithgareddau ar gyfer y teulu cyfan – o feiciau modur, dringo a sesiynau chwaraeon i ffair, bandiau byw a sioeau plant gyda chymeriadau teledu.  Mewn arolwg a gynhaliwyd ar y safle llynedd gan gwmni ymchwil Beauford, roedd 97% o’r ymwelwyr yn cytuno ei fod yn ddiwrnod gwych i’r teulu.

Yn ôl Aled Sion, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod,
“Rydym yn edrych ymlaen i ymweld â Sir Benfro ddiwedd mis Mai.  Mae’n cael ei chynnal eleni ar fferm Cilwendeg ger Boncath, sydd yn safle prydferth iawn ac yn ddelfrydol gan fod digon o aceri o dir gwastad ar gyfer yr Eisteddfod, y maes carafanau a’r meysydd parcio.  Mae’n agos i’r A487, gyda mynediad o’r ddau gyfeiriad, ac mae’n fanteisiol i ni bod yr Eisteddfod wedi ei chynnal ar yr un safle nôl yn 1995".

“Mae’n ddiwrnod gwych i’r teulu – os ydych awydd eistedd yn y pafiliwn yn mwynhau y dalent anhygoel ar y llwyfan neu eisiau diwrnod llawn adloniant i’r teulu cyfan.  Rydym yn rhoi croeso cynnes i bawb ddod draw i Gilwendeg a chael blas o awyrgylch unigryw Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd". 

Bydd tocynnau ar gyfer yr Eisteddfod ar werth o’r 1af o Chwefror, am bris gostyngol tan y 30ain o Ebrill.  Maent ar gael o urdd.org/eisteddfod neu trwy ffonio 0845 257 1639.

Cliciwch YMA am daflen wybodaeth


Grwpiau:
  • Eisteddfod

Copyright © 2012, urdd.org.All rights reserved
Design elfen.co.uk