Archif
Cliciwch isod am fwy o wybodaeth am Eisteddfodau'r gorffennol:
Pa atgofion sydd gyda chi o'r Eisteddfod?
Os hoffech rannu eich atgofion ac unrhyw luniau difyr, cysylltwch ag atgofioneisteddfod@urdd.org
Atgofion Catrin o Eisteddfod Sir Gar 2007:
‘Eisteddfod Sir Gar 2007 yw fy hoff atgof i oherwydd cefais fy newis i fod yn rhan or sioe gynradd "O Bren Braf". Rwyf yn aelod o "Ysgol Berfformio Dyffryn Tywi" ac roedd yn brofiad gwych cael bod yn rhan or "Neges Ewyllys Da" yn yr Eisteddfod. Rwyf hefyd yn aelod o adran yr Urdd yn fy mhentref yn Llanfihangel-ar-arth ac fe gawsom lwyddiant yn y parti canu.’
Atgofion Sue Nash o Landudno o Eisteddfod Bae Caerdydd 2005:
Fy hoff atgof o’r Eisteddfod oedd Eisteddfod Bae Caerdydd 2005. Roedd fy mab yn cystadlu yn ei Eisteddfod gyntaf, a dim ond yn bum mlwydd oed. Fe enillodd y gystadleuaeth Llefaru Unigol i Ddysgwyr dan 8, ac roedd ei weld yn sefyll ar lwyfan Canolfan y Mileniwm gyda channoedd o bobl yn ei wylio, yn dod a deigryn i’m llygad bob tro rwy’n meddwl amdano.
Dydw i na’m gwr yn siaradwyr Cymraeg, ac mae’r ffaith i Jack gystadlu ar y lefel yma yn gamp anhygoel. Mae ei Gymraeg wedi datblygu gymaint, ei fod yn bwriadu cystadlu o hyn allan fel cystadleuydd iaith-gyntaf. Diolch i Ysgol Talhaiarn, Conwy am eich holl help.




