Urdd
edition


Mistar Urdd yn ymweld â gwleidyddion Llundain!

Mae pump aelod o'r Urdd, yn ogystal â'r dyn ei hun, Mistar Urdd wedi derbyn gwahoddiad gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan i ymweld â rhif 10 Stryd Downing i ddathlu pen-blwydd y mudiad yn 90 oed.

Teithiodd criw o Fforwm Ieuenctid Myrddin a Cheredigion i Lundain i gyfarfod â Cheryl Gillan yn Swyddfa Cymru yn Nhŷ Gwydyr ddoe (23 Ionawr 2012), ac yna cerdded draw i rif 10, Stryd Downing i gael llun o flaen y drws enwog. Treulion nhw'r prynhawn yn gweld y Senedd ac yn cyfarfod yr Arglwydd Wigley a Jonathan Edwards AS.
- - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - -
Urdd Gobaith Cymru this week received birthday wishes from the Prime Minister, David Cameron, on celebrating its 90th birthday.

Urdd members were also invited by the Wales Office to meet The Secretary of State for Wales, Cheryl Gillan, at Gwydyr House, Whitehall yesterday (23 January 2012) and then have their photo taken in front of 10 Downing Street.

line
tickets

1af o Chwefror – tocynnau Eisteddfod ar werth!


Bydd tocynnau Maes a sioeau nos Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Eryri ar werth o ddydd Mercher, 1af o Chwefror. Cynigion arbennig ar bris tocynnau i'r Maes cyn 4ydd Mai.

Manylion ar y we a rhagflas o'r sioeau isod.
I brynu – cliciwch yma neu 0845 257 1639

Sbri, Galeri Caernarfon
Gwener, Sadwrn a Llun, 1, 2 a 4 Mehefin am 8
Sioe disgyblion ysgolion uwchradd yr ardal yn cynnwys amrywiaeth o ganeuon poblogaidd Cymraeg wedi eu haddasu'n gyfoes

Cyngerdd Agoriadol, Pafiliwn
Sul, 3 Mehefin am 8
Noson arbennig iawn i agor Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Eryri 2012. Manylion pellach i'w cyhoeddi'n fuan

Ar Gof a Chadw, Pafiliwn
Mawrth a Mercher, 5 a 6 Mehefin am 8
Dros 300 o blant cynradd yr ardal yn canu a dawnsio mewn sioe gerdd newydd sbon
- - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - -
Urdd Eisteddfod tickets go on sale 1 February, with discounts on Maes tickets ordered before 4 May. Click here or 0845 257 1639

line

llangrannog

Mae'n amser parti gyda'r
Prif Weinidog


Dydd Gwener 27 Ionawr 2012
20,000 o blant yn dathlu pen-blwydd yr Urdd yn 90 oed!

Dydd Gwener 27 Ionawr 2012 bydd dros 200 o ysgolion a 30 o adrannau cymunedol yn trefnu partïon sy'n para 90 munud i ddathlu pen-blwydd yr Urdd yn 90 oed! Yn ogystal cynhelir dathliad arbennig yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog lle bydd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn ymuno â rhai o blant rhanbarth Ceredigion i nodi'r pen-blwydd yn y Gwersyll.
- - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - -
Over 200 parties will be held all over Wales on Friday 27 January 2012 to celebrate Urdd Gobaith Cymru's 90th birthday. 20,000 children will take part in parties held at schools and community Adrannau, and at Llangrannog Urdd Centre at 1:00p.m. Carwyn Jones, First Minister for Wales, will join over a hundred Ceredigion school pupils to celebrate the milestone.

rugby

Creu swyddi newydd

Yng nghyfnod dathlu'r 90 mae Prif Weithredwr yr Urdd wedi cyhoeddi papur sy'n nodi gweledigaeth y mudiad am y 10 mlynedd nesaf. Mae papur 'Ymlaen i'r 100' yn nodi gobeithion uchelgeisiol i'r Urdd gan gynnwys penodi 17 Swyddog Ieuenctid i weithio gyda gwirfoddolwyr i hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg ymhlith pobl ifanc, ynghyd â deg Swyddog Chwaraeon newydd er mwyn sicrhau'r cyfle i bob plentyn allu cymryd rhan mewn chwaraeon drwy'r Gymraeg. Meddai Efa Gruffudd Jones:

"Mae'r papur hwn yn amlinellu cynlluniau cyffrous ac uchelgeisiol am y deng mlynedd nesaf, ac yn gosod nod sydd angen ei gyrraedd os ydym o ddifrif am sicrhau parhad yr iaith Gymraeg fel iaith gymdeithasol ymhlith pobl ifanc."

Mae'r ddogfen yma.

- - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - -
Urdd Gobaith Cymru Chief Executive, Efa Gruffudd Jones, has released a paper outlining the Urdd's vision for the next ten years. Central to the vision is the need for ten more Sport Officers and a dedicated Welsh Language Youth Officer in each of the Urdd's 17 regions in Wales, working with volunteers and young people to so that they can live their lives through the medium of Welsh and benefit from participation in Welsh-language social experiences.

Forward to 100 can be read here.

rugby

Gemau Cymru

Does dim amheuaeth bod 2012 yn flwyddyn fawr ym myd chwaraeon.

Gyda dros 1,200 o gystadleuwyr, 170 o wirfoddolwyr a 1,000 o archebion ar gyfer y cit swyddogol, bydd Gemau Cymru yn parhau i dyfu a hynny ym mlwyddyn fawr y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd. Eleni mae mwy fyth o gyrff chwaraeon yn awyddus i fod yn rhan o Gemau Cymru. Bydd y goreuon o athletwyr ifanc Cymru yn cystadlu yng Nghaerdydd dros dri diwrnod rhwng 13-15 Gorffennaf 2012 a hynny ar drothwy Gemau Llundain 2012.

- - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - -
On the eve of London 2012, Gemau Cymru will give Wales’ premier young athletes a taste of a multi sport event in Cardiff, with over 1,200 competitors taking part in the three day event between 13-15 July 2012.

www.urdd.org/gemaucymru

 
glan-llyn

Gwersylloedd
Mae hi'n flwyddyn fawr hefyd yng Ngwersyll yr Urdd Glan-llyn wrth i'r datblygiadau fwrw mlaen i adeiladu cegin newydd ac addasu'r caban bwyta. Rydyn ni'n edrych mlaen i goginio'r pryd cyntaf yn y gegin newydd ym mis Ebrill!

Mae cynlluniau ar y gweill eleni yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog i adeiladu bloc cysgu newydd gan gynnig lle i 150 yn fwy o blant i fwynhau yn y Gwersyll ger y lli!

Mae Gwersyll yr Urdd Caerdydd yn annog plant i greu gwaith celf yn ystod eu harhosiad yno – gwaith a fydd yn addurno'r waliau yn y Gwersyll maes o law!

Mwy am y Gwersylloedd yma!
- - - - - - - - - - - - - - - - -
Over the next few months Gwersyll Glan-llyn will build a new kitchen and dining hall that will offer better facilities for visitors and staff. The aim is to improve the general quality of the centre, without impairing the unique character of this particular part of Plas Glan-llyn.

More on the Gwersylloedd here!

cip badge
Cylchgronau
Mae rhifyn arbennig mis Ionawr o Cip yn llawn dop o ddathliadau! Gyda sticeri Pen-blwydd Hapus am ddim, gêm wych hanes yr Urdd a chalendr 2012 grŵfi i bob darllenydd, gwnewch yn siŵr bod plant eich teulu chi yn cael copi... cliciwch yma!
- - - - - - - - - - - - - - - - -
Cip – January's issue is a celebratory one with free birthday stickers, 2012 calendar and Urdd game...
footer
more information membership