Dy Ardal Di Môn

Ynys Môn....ynys fach efallai, ond mae hi'n ynys llawn bwrlwm ag antur, ac mae croeso cynnes iawn i holl ffrindiau mudiad yr Urdd yma! Y mae gennym dros 2,500 o aelodau; pobl ifanc brwdfrydig yn cystadlu a chymdeithasu drwy ganu, actio, nofio, dawnsio, chwaraeon, trafeilio, bowlio, canwio, dringo....mae'r rhestr yn hir-faith! Felly os wyt ti wedi diflasu ar wylio'r teledu bob nos, tyrd yn aelod o Urdd Ynys Môn i gael cyfle i wneud ffrindiau newydd a dysgu sgiliau newydd! Gorau po gyntaf, oherwydd wedi'r cyfan...

Môn Mam Cymru yw'r Ynys sy'n dangos esiampl!

Os wyt ti’n 13 oed neu’n hyn beth am ymuno a grŵp facebook rhanbarth Môn? Clicia yma!