Rh.C.T. - Llanhari
Fy enw i yw Craig Howells, rwyf yn dod yn wreiddiol o Merthyr Tudful. Rwyf wedi bod yn gweithio fel swyddog ieuenctid yn Ysgol Gyfun Cymer i Fenter Iaith Rhondda Cynon Taf. Byddaf yn ystod y flwyddyn academig 2010-2011 yn gweithio yn Ysgol Gyfun Llanhari.
Prif fwriad fy swydd yw cynnal gweithgareddau sydd yn hybu a hyrwyddo defnydd yr iaith Gymraeg. Byddaf ar gael i weithio gydag unrhyw ddisgybl o fewn yr ysgol, felly croeso i chi cysylltu am ragor o wybodaeth, neu i drafod syniadau am y math o weithgareddau hoffech chi weld.
Yn ystod fy mlwyddyn gyntaf fel swyddog ieuenctid yn y cynllun Llwybrau’r Brig mi wnes i gynnal amrywiaeth o weithgareddau a gweithio gyda disgyblion o flwyddyn 7 i 12. Un o’r digwyddiadau cyntaf wnes i drefnu oedd sioe Tafliad Carreg yn Ysgol Treorci. Mi wnaeth dros 120 o fyfyrwyr fynychu'r sioe i ddysgu am beryglon pwysau gan gyfoedion. Ar ôl hynny mi wnes i redeg cwrs Babanod Realiti a gafodd ei achredu gan y rhwydwaith Coleg Agored lleol. Cafodd grŵp o ferched gyfle i ddysgu sut fyddai bywyd fel rhiant ifanc. Rwyf wedi bod yn rhedeg nifer o gyrsiau byr OCN, i roi hyfforddiant a chymhwyster Camu Ymlaen i ddisgyblion blwyddyn 11. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf rwyf wedi trefnu nifer o weithgareddau ar y cyd gyda'r ysgolion Gymraeg eraill yn Rhondda Cynon Taf. Ymysg y gweithgareddau hynny mae: sglefrio ia, Cwm Talent, beicio cwad, cwrs ymwybyddiaeth alcohol, bowlio deg, cwrs preswyl yng Nghaerdydd, trip syrffio a thripiau ddringo.
Y peth mwyaf positif yn ystod y flwyddyn gyntaf o’r prosiect yw gweld disgyblion o ysgolion gwahanol yn cwrdd am y tro cyntaf gan ddatblygu perthynas drwy'r Gymraeg a chael llawer o hwyl yn y broses.

